Charles Sanders Peirce
Athronydd, rhesymegwr, a mathemategydd o'r Unol Daleithiau oedd Charles Sanders Peirce (10 Medi 1839 – 19 Ebrill 1914) sydd yn nodedig am ei gyfraniadau at resymeg perthnasau a fel un o brif ladmeryddion pragmatiaeth.
Charles Sanders Peirce | |
---|---|
Ffotograff o Charles Sanders Peirce, tua 1900. | |
Ganwyd | 10 Medi 1839 Cambridge |
Bu farw | 19 Ebrill 1914 Milford |
Man preswyl | Arisbe |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | mathemategydd, athronydd, rhesymegwr, pragmatist, ystadegydd, academydd, ieithydd, syrfewr tir, ffisegydd |
Cyflogwr |
|
Prif ddylanwad | George Berkeley |
Mudiad | pragmatiaeth |
Tad | Benjamin Peirce |
Mam | Sarah Hunt Mills |
Priod | Juliette Peirce, Melusina Fay Peirce |
Gwobr/au | Cymrawd Academi Celf a Gwyddoniaeth America |
llofnod | |
Bywgraffiad
golyguGaned Charles Sanders Peirce ar 10 Medi 1839 yn Cambridge, Massachusetts, Unol Daleithiau America, yn un o bedwar mab i'r Athro Benjamin Peirce—mathemategydd Americanaidd blaenaf y 19g—a'i wraig Sarah Mills, merch y Seneddwr Elijah Mills. Penodwyd Benjamin Peirce yn athro mathemateg ym Mhrifysgol Harvard ym 1831, ac yn athro seryddiaeth ym 1842, a magwyd ei feibion mewn amgylchfyd academaidd gyda phwyslais ar syniadau newydd yn y gwyddorau. Mynychodd Charles ysgolion preifat a'r uwchysgol yn Cambridge, ond roedd ei addysg bob amser dan oruchwyliaeth ei dad, ac yn y cartref byddai'r Athro Peirce yn rhoi gemau a chwestiynu mathemategol i brofi dealltwriaeth ei fab.
Derbyniwyd Charles yn fyfyriwr i Goleg Harvard ym 1855, a graddiodd yn un o aelodau ieuaf ei ddosbarth ym 1859. Er iddo ymddiddori yn athroniaeth yn bennaf, o ganlyniad i ddarllen gweithiau Friedrich Schiller, ar erfyn ei dad cychwynnodd Peirce ar yrfa wyddonol, a threuliodd un flwyddyn yn y maes gydag Arolwg Arfordirol yr Unol Daleithiau. Dychwelodd i Harvard i astudio yn Ysgol Wyddonol Lawrence, ac yno derbyniodd radd gyda'r clod uchaf mewn cemeg ym 1863.[1]
Tra'n parhau a'i addysg, fe'i penodwyd i swydd barhaol yn yr Arolwg Arfordirol ym 1861, fel ymchwilydd ystadegol yn cynorthwyo'i dad, Benjamin Peirce, wrth geisio mesur hydredau o bwyntiau yn yr Unol Daleithiau, o'u cymharu â mannau yn Ewrop, drwy sylwi ar argeliadau lleuadol Twr Tewdws. Gweithiodd Charles Peirce yn Arsyllfa Coleg Harvard ar gyfer gwybodaeth seryddol yr arolwg, a chyhoeddwyd ei ymchwil yng nghyfnodolyn blynyddol yr arsyllfa ym 1878. Etholwyd Peirce yn gymrawd gan Academi Americanaidd y Celfyddydau a'r Gwyddorau yn Cambridge, Massachusetts, ym 1867, a fe'i penodwyd hefyd yn aelod o Academi Genedlaethol y Gwyddorau yn Washington, D.C. ym 1877 ac yn aelod o Gymdeithas Fathemategol Llundain ym 1880. Cyflwynodd 34 o bapurau i Academi Genedlaethol y Gwyddorau o 1878 i 1911, ar amryw bynciau gan gynnwys rhesymeg, mathemateg, ffiseg, geodeseg, sbectrosgopeg, a seicoleg arbrofol.[1]
Ni lleihaodd diddordeb Peirce yn athroniaeth, a bu dan gyfaredd syniadau Immanuel Kant yn enwedig. Bu'n gyfaill i William James, Chauncey Wright, a Francis Ellingwood Abbot ers ei ddyddiau yn y brifysgol, a chyfathrebodd â nifer o feddylwyr blaenllaw eraill ei oes, yn eu plith Oliver Wendell Holmes Jr., Ralph Waldo Emerson, a John Fiske. Darlithiodd yn achlysurol, o 1864 i 1871, ar bynciau rhesymeg ac athroniaeth gwyddoniaeth ym Mhrifysgol Harvard, a chyhoeddodd sawl erthygl (ond nid yr un llyfr) yn ymwneud ag athroniaeth. Fodd bynnag, ni châi Peirce ei benodi yn athro gan unrhyw brifysgol, a ni chydnabuwyd ei syniadau athronyddol gan y byd academaidd yn ystod ei oes. Treuliodd y rhan fwyaf o ddiwedd ei oes yn feudwy, a bu farw yn dlawd, ar 19 Ebrill 1914, ger Milford, Pennsylvania, yn 74 oed. Cyhoeddwyd y mwyafrif o'i weithiau o'r diwedd mewn wyth cyfrol, Collected Papers of C.S. Peirce (1931–58).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Charles Sanders Peirce. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Mehefin 2022.