Charles Van Doren
Academydd, awdur, a phersonoliaeth deledu o'r Unol Daleithiau oedd Charles Van Doren (12 Chwefror 1926 – 9 Ebrill 2019) sydd yn nodedig am ei ran yn sgandal y sioeau cwis yn y 1950au.
Charles Van Doren | |
---|---|
Charles Van Doren wrth y teipiadur yn ei gartref ym 1957. | |
Ganwyd | 12 Chwefror 1926 Manhattan |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | academydd, awdur ffeithiol, cofiannydd |
Tad | Mark Van Doren |
Mam | Dorothy Graffe Van Doren |
Ganed ef yn Ninas Efrog Newydd i deulu llenyddol amlwg yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau. Bardd a beirniad llenyddol oedd ei dad Mark Van Doren, a fyddai'n athro Saesneg ym Mhrifysgol Columbia am ddeugain mlynedd, a'i fam oedd y nofelydd a golygydd Dorothy Van Doren, Graffe gynt. Mynychodd Charles y "City and Country", ysgol flaengar yn Greenwich Village, cyn dysgu'r clarinét yn yr Uwchysgol Cerdd a Chelf yng ngogledd Manhattan. Astudiodd lenyddiaeth y Gorllewin yng Ngholeg St John yn Annapolis, Maryland, cyn gwasanaethu yng Nghorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi'r rhyfel derbyniodd ei radd baglor yn y celfyddydau breiniol o Goleg St John ym 1947, ac aeth ymlaen i Brifysgol Columbia i ennill gradd meistr mewn mathemateg a ffiseg ym 1949. Aeth ar gymrodoriaeth i Brifysgol Caergrawnt ac astudiodd ym y Sorbonne am gyfnod cyn dychwelyd i Columbia i ennill doethuriaeth mewn llenyddiaeth Saesneg ym 1955. Yno dechreuodd ddarlithio, gan rannu swyddfa gyda'i dad, a oedd bellach yn athro llawn.[1]
Cyfarfu Van Doren ag Al Freedman, un o gynhyrchwyr Barry & Enright Productions, y cwmni a gynhyrchodd y sioe gwis Twenty-One (1956–58) ar gyfer sianel deledu NBC. Ar y pryd, bu cystadleuwr o'r enw Herb Stempel yn hynod o lwyddiannus, ond nid oedd y cwmni Geritol, noddwr y rhaglen, yn credu ei fod yn bersonoliaeth ddigon carismatig. Mewn ymgais i ddenu mwy o wylwyr, a phlesio'r hysbysebwr, cynlluniodd Freedman a'i gyd-gynhyrchydd Dan Enright i roi Van Doren i gystadlu â Stempel a chreu drama ar y sioe. Ymddangosodd Van Doren ar Twenty-One yn gyntaf yn Nhachwedd 1956, a daeth y gynulleidfa yn hoff iawn ohono, am iddo ymddangos yn olygus a bonheddig o'i gymharu â Stempel. Collodd Stempel i Van Doren, ac o Ionawr i Fawrth 1957 enillodd Van Doren gyfanswm o $129,000 (rhyw $1 miliwn heddiw) cyn ildio'i safle yn bencampwr ar y sioe i Vivienne Nearing. Cynigwyd iddo gontract gydag NBC, ac ymddangosodd yn fynych ar raglenni diwylliannol tra'n parhau i ddarlithio ym Mhrifysgol Columbia. Ym 1957 priododd Charles Van Doren â Geraldine Bernstein, a chawsant un mab ac un ferch.[1]
Ym 1958, daeth sïon am anonestrwydd ym myd y sioeau cwis i'r amlwg, a chafodd Van Doren ei gwestiynu gan is-erlynydd sirol Manhattan, Joseph Stone, ond ni chyfaddefai ei ran yn y sgandal nes iddo annerch ymchwiliad gan Gyngres yr Unol Daleithiau ym 1959. Ymddiswyddodd Van Doren o Brifysgol Columbia, a chafodd ei ddiswyddo gan NBC. Fe'i cafwyd yn euog o anudoniaeth ym 1962 a derbyniodd ddedfryd ohiriedig o garchar.
Wedi'r sgandal, cafodd Van Doren waith fel golygydd gyda'r Encyclopædia Britannica yn Chicago. Cyd-weithiodd â Mortimer Adler ar argraffiad newydd o'r gyfrol How to Read a Book (1965), ac ysgrifennodd Van Doren sawl llyfr ffeithiol arall gan gynnwys The Joy of Reading (1985) ac A History of Knowledge (1991). Cyrhaeddodd swydd is-lywydd cwmni'r Encyclopædia Britannica erbyn iddo ymddeol ym 1982. Ymgartrefodd Van Doren yn hen fwthyn ei rieni yn Cornwall, Connecticut, ac addysgodd efe a'i wraig mewn cangen leol o Brifysgol Connecticut. Ni siaradodd yn gyhoeddus am y sgandal nes iddo ysgrifennu erthygl ar gyfer The New Yorker yn 2008. Bu farw Charles Van Doren yn Canaan, Connecticut, yn 93 oed.[2]
Portreadir Van Doren gan Ralph Fiennes yn y ffilm ddrama Quiz Show (1994) sy'n seiliedig ar hanes y sgandal.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Michael Carlson, "Charles Van Doren obituary", The Guardian (17 Ebrill 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 21 Mehefin 2020.
- ↑ (Saesneg) Robert D. McFadden, "Charles Van Doren, a Quiz Show Whiz Who Wasn’t, Dies at 93", The New York Times (10 Ebrill 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Ebrill 2019.