Charlie Pritchard
Roedd Charles Meyrick Pritchard (30 Medi 1882 – 14 Awst 1916) yn chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol dros Gymru. Roedd yn aelod o'r tim a drechodd y Crysau Duon yn 1905. Roedd yn chwaare i Glwb Rygbi Casnewydd a thros Sir Fynwy ar y lefel sirol.
Charlie Pritchard | |
---|---|
Ganwyd | 30 Medi 1882 Casnewydd |
Bu farw | 14 Awst 1916 Chocques |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Gwobr/au | Mentioned in Despatches |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Clwb Rygbi Casnewydd |
Safle | blaenasgellwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Gyrfa rygbi
golyguYmunodd Pritchard a Chasnewydd yn 1901 gan chwarae ei gem gyntaf ar 25 Ionawr a hynny yn erbyn Abertawe. Treuliodd ei yrfa rygbi gyfan gyda Chasnewydd a chafodd ei benodi'n is-gapten yn ystod tymor 1905/06. Daeth yn gapten dros dro pan fethodd y capten Wyatt Gould a chyflawni ei ddyletswyddau o ganlyniad i anaf.[1] Rhoddwyd y gapteniaeth iddo y tymor canlynol, a chyflawnodd y rol honno am dri thymor yn olynol.
Gyrfa ryngwladol
golyguChwaraeodd Pritchard dros Gymru am y tro cyntaf yn y gem yn erbyn Iwerddon yn 1904. Byddai Pritchard yn chwarae 13 gem arall dros y tîm cenedlaethol, yn cynnwys y gem enwog yn erbyn y Crysau Duon yn 1905. Er bod holl chwaraewyr Cymru wedi cyfrannu at y fuddugoliaeth yn erbyn Seland Newydd, cafodd Pritchard ei ganmol am ei waith amddiffynnol a'i daclo caled. Ef oedd seren blaenwyr Cymru ac roedd "bob amser yn ei chanol hi".[2] "He knocked 'em down like nine pins" meddai ei gyd-chwaraewr George Travers am chwarae ffyrnig Pritchard yn y gem.[2][3]
Sgoriodd Pritchard ei unig gais ryngwladol yn y fuddugoliaeth yn erbyn Lloegr mewn gornest y gwledydd cartref ar 13 Ionawr 1906 (16-3 oedd y sgor terfynol). Cafodd anaf difrifol yn 1908 ac ni ddychwelodd i'r tim cenedlaethol tan dymor 1909/10 a chwaraeodd ei gem olaf yn erbyn Lloegr yn 1910. [4]
Gemau rhyngwladol a chwaraeodd
golyguCymru [5]
- Lloegr 1905, 1906, 1907, 1908, 1910
- Ffrainc 1910
- Iwerddon 1904, 1906, 1907
- Seland Newydd 1905
- yr Alban 1905, 1906, 1907
- De Affrica 1906
Gwasanaeth milwrol a marwolaeth
golyguCafodd Pritchard ei gomisiynu'n ail is-gapten yn 12fed Batalin Cyffinwyr De Cymru. Yn Nhachwedd 2015 cafodd ei ddyrchafu'n gapten ac aeth gyda'i Fataliwn i'r Ffrynt Orllewinol ym Mehefin 1916. Ar noson 12 Awst 1916 arweiniodd gyrch ar ffos ger Loos er mwyn cipio carcharor Almaenig. Bu'r cyrch yn llwyddiannus yn ei amcan, ond anafwyd Pritchard yn ddifrifol ac fe'i cariwyd i orsaf feddygol rai milltiroedd o'r ffrynt yn Chocques. Yn ôl yr hanes, ei eiriau olaf oedd holi a oedden nhw wedi dal yr 'Hun', a phan glywodd eu bod wedi llwyddo, atebodd 'Wel, rwyf wedi gwneud fy rhan'. Bu farw Pritchard o'i anafiadau yn yr orsaf feddygol ar 14 Awst 1916 ac mae wedi'i gladdu ym Mynwent Filwrol Chocques.[3][6]
Llyfryddiaeth
golygu- Parry-Jones, David (1999). Prince Gwyn, Gwyn Nicholls and the First Golden Era of Welsh Rugby. Bridgend: seren. ISBN 1-85411-262-7.
- Thomas, Wayne (1979). A Century of Welsh Rugby Players. Ansells Ltd.
- Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Cardiff: University of Wales Press. ISBN 0-7083-0766-3.
- Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War. St. David's Press. ISBN 978-1-902719-37-5.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Wyatt Gould profile Archifwyd 2011-06-17 yn y Peiriant Wayback blackandambers.co.uk
- ↑ 2.0 2.1 Smith (1980), pg 162.
- ↑ 3.0 3.1 Thomas (1979), pg 43.
- ↑ Thomas (1979), pg 44.
- ↑ Smith (1980), pg 470.
- ↑ Prescott, Gwyn (2014). Call Them to Remembrance: The Welsh Rugby Internationals who died in the Great War. St David's Press. ISBN 978-1-902719-37-5.