Charlotte Despard
Ffeminist a swffragét Gwyddelig o Gaint, Loegr oedd Charlotte Despard (née French; 15 Mehefin 1844 - 10 Tachwedd 1939) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel gwleidydd, nofelydd ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched. Roedd yn un o sefydlwyr Cynghrair Rhyddid y Merched (Women's Freedom League), Crwsâd Heddwch y Merched (Women's Peace Crusade) a Chynghrair Etholfraint Gwyddelod Benywaidd (the Irish Women's Franchise League). Er iddi sefyll yn gadarn fel heddychwr, roedd hefyd yn aelod o Sinn Féin a Cumann na mBan.[1]
Charlotte Despard | |
---|---|
Ganwyd | Margaret Charlotte French 15 Mehefin 1844 Ripple |
Bu farw | 10 Tachwedd 1939 Whitehead |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, nofelydd, ymgyrchydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur, Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr |
Tad | John Tracy William French |
Mam | Margaret Eccles |
Magwraeth
golyguGaned Charlotte French yn Ripple, Caint ar 15 Mehefin 1844 a bu farw yn Belffast a'i chladdu ym Mynwent Glasnevin, Iwerddon. Roedd yn ferch i'r Capten John Tracy William French o'r Llynges Frenhinol (a fu farw ym 1855) a Margaret French, née Eccles (a fu farw yn 1867).[2] Daeth ei brawd John French yn brif reolwr milwrol yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ac yn Arglwydd Raglaw Iwerddon, gan roi'r brawd a chwaer mewn dau gae hollol wahanol i'w gilydd.[3][4][5][6]
Ni chafodd addysg ffurfiol, ac roedd hyn yn ei phoeni gydol ei hoes, er iddi fynychu ysgol yn Llundain am ysbaid. Yn 1870, priododd y dyn busnes Maximilian Carden Despard, a fu farw ar y môr yn 1890; nid oedd ganddynt blant.[7]
Nofelau
golyguCyhoeddwyd nofel Saesneg gyntaf Despard, Chaste as Ice, Pure as Snow yn 1874. Yn ystod yr un-deg-chwe mlynedd nesaf, ysgrifennodd ddeg nofel, na chyhoeddwyd tri ohonynt erioed. Cyhoeddwyd y nofel Outlawed: a Novel on the Women's Suffrage Question yn 1908 ar y cyd â'i ffrind, Mabel Collins.
Gwleidyddiaeth
golyguDaeth yn ffrindiau da gydag Eleanor Marx ac roedd yn ddirprwy yn yr "Ail Ryngwladol" (the Second International), gan gynnwys y pedwerydd cyngres yn Llundain yn 1896. Ymgyrchodd yn erbyn Ail Ryfel y Boer gan ddatgan ei fod yn "rhyfel drwg y llywodraeth gyfalafol hon" ac aeth ar daith o amgylch y gwledydd Prydain yn siarad yn erbyn defnyddio gorfodaeth filwrol yn y Rhyfel Byd Cyntaf, gan ffurfio mudiad heddwch o'r enw "Crwsâd Heddwch y Merched" i wrthwynebu pob rhyfel.
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Grwsâd Menywod dros Heddwch, Yr Undeb Cenedlaethol dros yr Hawl i Fenywod Bleidleisio, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, Cynghrair Rhyddid Merched, Cymdeithas y Merched a Chyfeillion Rwsia Sofietaidd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Leneman, Leah (1997). "The awakened instinct: vegetarianism and the women's suffrage movement in Britain", Women's History Review, Cyfrol 6, Rhif 2.
- ↑ Margaret., Mulvihill (1989). Charlotte Despard : a biography. London: Pandora. tt. 13–14. ISBN 978-0863582134. OCLC 26098404.
- ↑ Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
- ↑ Dyddiad geni: "Charlotte Despard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Despard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "geboren:". "Charlotte Despard".
- ↑ Dyddiad marw: "Charlotte Despard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Charlotte Despard". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. "geboren:".
- ↑ Adam, Hochschild (2011). To end all wars : a story of loyalty and rebellion, 1914-1918. Boston: Houghton Mifflin Harcourt. ISBN 9780618758289. OCLC 646308293.