Chewbacca
Cymeriad ffuglennol yw Chewbacca, llysenw "Chewie", yn y fasnachfraint Star Wars. Wookiee yw Chewbacca, creaduriaid (ffuglennol) tal, blewog, deudroed a deallus o'r blaned Kashyyyk. Chewbacca yw ffrind ffyddlon a chydymaith Han Solo, ac mae'n gyd-beilot iddo ar y llong ofod, y Millennium Falcon.[1] Yn ôl y stori, cyfarfu'r ddau ar ol i Chewbacca ddianc o gaethiwed yr Ymerodraeth ar blaned Minban. Yn dilyn cyfres o anturiaethau ar Vandor a Kessel, mae Chewbacca yn ymuno â'r fasnach smyglo fel cyd-beilot i Solo.
Enghraifft o'r canlynol | Wookiee, cymeriad o Star Wars, cymeriad ffilm, cymeriad llenyddol, cymeriad animeiddiedig, cymeriad teledu, cymeriad gêm fideo |
---|---|
Crëwr | George Lucas |
Aelod o'r canlynol | Crimson Dawn, Rebel Alliance, Resistance |
Gwefan | http://www.starwars.com/databank/chewbacca |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ysbrydoliaeth George Lucas oedd y cymeriad, wedi iddo weld ei gi ei hun yn eistedd i fyny yn sedd teithiwr ei gar.[2] Dywedir bod enw Chewbacca yn deillio o собака (sobaka), y gair Rwsia am gi.[3] Yn Ffrainc, newidiwyd ei enw ym mhennod 4 (y ffilm gyntaf i'w rhyddhau) i "Chiktaba"[4] oherwydd bod yr enw Saesneg yn debyg i "cnoi baco" yn Ffrangeg, sef "tabac à mâcher" neu "tabac à chiquer". Cadwyd yr enw "Chewbacca" yn y penodau eraill. Yn y fersiynau Eidaleg, gelwir Chewbacca yn "Chewbecca", a'i lysenw yw "Ciube".[5]
Yn ffilmiau'r prif saga, portreadwyd Chewbacca gan Peter Mayhew o benodau III i VII (mae Mayhew yn rhannu'r rôl gyda'i gorff dwbl, Joonas Suotamo, ym Mhennod VII). Cymerodd Suotamo y rôl ar ei ben ei hun yn yr wythfed bennod Star Wars: The Last Jedi,[6] ac yn Solo: A Star Wars Story a Star Wars: The Rise of Skywalker. Mae'r cymeriad hefyd wedi ymddangos ar deledu, llyfrau, comics, a gemau fideo.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chewbacca Profile, at StarWars.com. Retrieved May 30, 2018.
- ↑ George Lucas, in DVD bonus disc documentary, "Characters of Star Wars"
- ↑ "FilmSmarts.com - Chewbacca from Star Wars". filmsmarts.com.
- ↑ http://cinema.jeuxactu.com/news-cinema-star-wars-quand-chewbacca-s-appelait-chiktaba-et-han-solo-yan-28943.htm
- ↑ Lorenzo Frati. "La Guerra delle stelle: Il doppiaggio e l'adattamento italiano di Star Wars del '77". Star Wars Athenaeum (yn Eidaleg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-02-24. Cyrchwyd November 21, 2018.
- ↑ "Why We Still Love Star Wars: A New Chewie". Parade magazine. December 3, 2017. t. 8.
Now Joonas Sutamo,....,has taken over the suit full-time from 73-year old actor Peter Mayhew.