Chiara Sacchi
Ymgyrchydd hinsawdd o'r Ariannin yw Chiara Sacchi (ganwyd 2002).[1]
Chiara Sacchi | |
---|---|
Ganwyd | 2002 |
Dinasyddiaeth | Yr Ariannin |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hinsawdd |
Bywyd personol
golyguCafodd Chiara Sacchi ei geni a'i magu yn Haedo, Buenos Aires, ac astudiodd yn Elmina Paz de Gallo, yn El Palomar.[2] Yn ôl cyfweliad gan Slow Food, cafodd Sacchi ei magu mewn amgylchedd teuluol lle roedd bwyta'n iach yn bwysig, a dyna pam mae llawer o'i gweithredoedd fel ymgyrchydd hinsawdd yn troi o gwmpas y mater hwn.[3] Mae hi hefyd wedi tynnu sylw mewn amryw areithiau a chyfweliadau iddi gael ei hannog i weithredu dros newid hinsawdd, oherwydd iddi gael ei dychryn gan newidiadau sydyn yn nhymheredd ei mamwlad.[4]
Gweithredu
golyguRoedd Chiara Sacchi yn rhan o'r ymgyrch “Plant vs. Symudiad Argyfwng Hinsawdd”, gyda Greta Thunberg, Catarina Lorenzo ac 15 o weithredwyr ifanc eraill.[5][6] Roedd hon yn fenter a fynnodd fod yr Ariannin, Brasil, Ffrainc, yr Almaen a Thwrci yn gyfrifol am beidio a gweithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd.[7] Y ddeiseb hon oedd y gŵyn ffurfiol gyntaf a ffeiliwyd gan grŵp o blant o dan 18 oed ynghylch newid hinsawdd o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Mae Sacchi wedi cymryd rhan fel ymgyrchydd eitha milwriaethus yn y rhwydwaith 'Bwyd Araf yr Ariannin', grŵp byd-eang sy'n gweithio i amddiffyn bioamrywiaeth a bwyd da, glân a theg. O ran gweithredu dros fwwyd, mae hi hefyd wedi cymryd rhan yn <i>Terra Madre Salone del Gusto</i> ac yng ngweithgareddau <i>La Comunidad Cocina Soberana de Buenos Aires</i>, cymuned bwyd araf yn Buenos Aires.[8] Mae hi wedi bod yn ddi-flewyn-ar-dafod am sofraniaeth bwyd :
Rwy'n hyrwyddo egwyddorion 'Bwyd Araf' oherwydd credaf fod ffyrdd eraill o gynhyrchu bwyd, rhai nad ydynt yn niweidio natur a bodau dynol ... Nid yw llywodraethau'n gyfrifol am drwsio ac atal y difrod a wneir i gyrff pobl a'r ecosystem, a achosir gan y system fwyd, maent hefyd yn caniatáu tocsinau ar ein platiau.[3] } Yn adnabyddus am ei slogan “Rhowch nôl i ni ein dyfodol”, mae Sacchi yn rhan o fudiad ieuenctid sy'n tyfu ac sy'n hyrwyddo tegwch rhwng cenedlaethau wrth weithredu dros yr hinsawdd.Cyfeiriadau
golygu- ↑ "#ChildrenVsClimateCrisis". childrenvsclimatecrisis.org. Cyrchwyd 2020-11-15.
- ↑ "Chiara Sacchi: la joven de Haedo es una de las principales activistas argentinas que lucha para frenar el cambio climático". Primer Plano Online (yn Sbaeneg). 2019-10-17. Cyrchwyd 2020-11-14.
- ↑ 3.0 3.1 ""Give Us Back Our Future." Chiara Sacchi, Slow Food Activist with Greta to the UN". Slow Food International (yn Saesneg). 2019-09-25. Cyrchwyd 2020-11-15.
- ↑ "Las Greta Thunberg latinas que luchan contra el cambio climático (¿Y conoces alguna otra?)". BBC News Mundo (yn Sbaeneg). Cyrchwyd 2020-11-14.
- ↑ gaianicity, Author. "Chiara Sacchi". County Sustainability Group (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-11-15.[dolen farw]
- ↑ "Why Chiara Sacchi Filed a Landmark Climate Complaint Against Five Countries—Including Her Own". Earther (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-15. Cyrchwyd 2020-11-15.
- ↑ "Buenos Aires Times | Chiara-sacchi". www.batimes.com.ar. Cyrchwyd 2020-11-15.
- ↑ Food, Slow (2019-09-25). ""Give Us Back Our Future." Chiara Sacchi, Slow Food Activist with Greta to the UN". Sustainable News (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-11-21. Cyrchwyd 2020-11-15.