Chieko Kawabe
Cantores o Japan yw Chieko Kawabe (越智 千恵子 Ochi Chieko) a anwyd gyda'r enw 河辺千恵子 (Chieko Kawabe) ar 24 Chwefror 1987. Mae hefyd yn actores, yn fodel ffasiwn, ac yn 'tarento' (seren deledu yn Japan).
Chieko Kawabe | |
---|---|
Ganwyd | 24 Chwefror 1987 Tokyo |
Dinasyddiaeth | Japan |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, canwr, model ffasiwn, awdur geiriau, actor plentyn, tarento, llenor, model |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd |
Taldra | 167 centimetr |
Pwysau | 49 cilogram |
- Yn yr enw Japaneaidd hwn, Kawabe yw'r enw teuluol.
Fe'i ganed yn Tokyo ac wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Asia, Tokyo.[1]
Hi oedd Morwr Mercher yn y gyfres-miwsical byw Sailor Moon pan oedd yn 12 od yn 2000, cyn trosglwyddo'r rôl i Wakayama Manami. Mae llawer o'i chaneuon wedi cael eu defnyddio mewn cyfresi anime a sioeau teledu, gan gynnwys Ōran Kōkō Hosuto Kurabu (Clwb Gwadd Ysgol Uwchradd Ouran High) a Lizzie McGuire.
Magwraeth a phriodi
golyguDaeth ei mam yn wreiddiol o'r Philipinau a'i thad o Japan.
Priododd y cynhyrchydd Masato Ochi ar 8 Awst 2008.[2] Wedi 7 mlynedd (yn 2015), ysgarodd y ddau.[3] Yn 2010 cyhoedd gyfrol ar goginio. Mae ganddi un ferch.[4]
Gyrfa
golyguRhyddhaodd Kawabe y sengl Be Your Girl ar 27 Ebrill, 2004. Dyma'r gân-thema ar ddiwedd yr anime Elfen Lied, a'i chân arall, "Hoshi ni Negai o" oedd cân-thema ar ddiwedd Otogizoshi. Rhyddhaodd Shining yn 2004, a Kizunairo yn 2005. Defnyddiwyd y gân "I Can't Wait", o'r sengl "Kizunairo" fel y cân-thema i fersiwn Japaneaidd y sioe Lizzie McGuire.[5]
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 9 Ionawr 2016.
- ↑ "BREAKING NEWS: Chieko Kawabe Marries Producer". Moon Chase! A Sailor Moon News Blog. 17 Awst 2008. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.
- ↑ "Masato Ochi Divorces 21 Years Younger Wife". Sponichi Annex. 21 Tachwedd 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Tachwedd 2015. Cyrchwyd 18 Tachwedd 2016. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "越智千恵子オフィシャルブログ Powered by Ameba". ameblo.jp. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2015.
- ↑ "Chieko Kawabe's Bio". jpopasia. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-09. Cyrchwyd 26 Mawrth 2011.