Pierre Choderlos de Laclos
Llenor o Ffrainc oedd Pierre Ambroise François Choderlos de Laclos (18 Hydref 1741 – 5 Medi 1803), a aned yn Amiens, Ffrainc.
Pierre Choderlos de Laclos | |
---|---|
Pierre Choderlos de Laclos (Portread a briodolir i Alexander Kucharski, 1741–1819, Amiens, Musée de l'hôtel de Berny) | |
Ganwyd | 18 Hydref 1741 Amiens |
Bu farw | 5 Medi 1803 o malaria Taranto |
Dinasyddiaeth | Ffrainc |
Galwedigaeth | llenor, dyfeisiwr, nofelydd, swyddog milwrol, rhyddieithwr, newyddiadurwr, swyddog, cadlywydd milwrol |
Adnabyddus am | Les Liaisons dangereuses |
Arddull | Nofel epistolaidd |
Priod | Marie Soulange Duperré |
Swyddog artileri yn y fyddin Ffrengig oedd Laclos wrth ei alwedigaeth. Roedd yn fab i glerc canolradd yn Amiens lle cafodd ei eni yn 1749. Graddiodd fel swyddog artileri o ysgol filwrol La Fère yn 1763 ond yn yr un flwyddyn arwyddwyd Cytundeb Paris (1763) a ddaeth â heddwch i Ffrainc am 30 mlynedd a chafodd Laclos ei hun mewn sefyllfa diflas o wasanethu mewn garsiynau rhanbarthol heb obaith o ddyrchafiad.
Pan ymledodd fflam gwerinaetholdeb trwy Ffrainc adeg y chwyldro yn America yn 1779 ymroddodd Laclos i lenydda. Yn 1782 cyhoeddodd ei waith mwyaf adnabyddus, y nofel epistolaidd Les Liaisons dangereuses, ar ffurf cyfres o lythyrau rhwng Valmont a Madame Merteuil, sy'n portreadu moesau gwyriedig rhai elfennau o'r dosbarth uchel yn Ffrainc yn ail hanner y 18g.
Mae ei weithiau eraill yn cynnwys De l'Education des Femmes (1785) a'r feirniadaeth lenyddol ddychanol Lettre à MM. de l'Academie Française sur l'Eloge de Vauban (1786). Yn y flwyddyn honno priododd Marie Duperré, y wraig y byddai'n ffyddlon iddi am weddill ei oes.
Yn 1788 cafodd swydd gyda'r Dug Orléans ac aeth efo fo i Lundain yn sgîl Goregyniad y Bastille. Ar ei ddychweliad i Paris bu'n aelod ymroddgar o'r Club des Jacobins. Cafodd ei benodi'n llywodraethwr cyffredinol ar y tiriogaethau Ffengig yn India lle cafodd ei garcharu am gyfnod am ei gefnogaeth i blaid yr Orléanistes. Ar ôl dychwelyd i Ffrainc ymyrodd ei gyfaill Thermidor i achub ei groen yn ystod dyddiau duaf y Chwyldro Ffrengig ac ysgrifennodd draethawd ar ryfel a heddwch, De la Guerre et de la Paix. Bu farw yn 1803 yn Tarento tra'n gwasanaethu fel cadfridog yn yr artileri.
Camfernir ei nofel enwog yn aml am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,
- Peut-être ces mêmes Liaisons dangereuses, tant reporchées aujourd'hui par les femmes, sont une preuve assez forte que je me suis beaucoup occupé d'elles.
- (Efallai'n wir bod y Liaisons dangereuses hynny eu hunain, a feirniadir gymaint gan y merched, yn brawf digon cryf fy mod wedi ymroi llawer i'w hachos.)
Llyfryddiaeth
golygu- Roger Vailland, Laclos par lui-même (Paris, 1953)