Nofel epistolaidd
Nofel ar ddull llythyr neu gyfres o lythyrau yw Nofel epistolaidd.
Gall nofel epistolaidd fod ar ffurf llythyraeth gan unigolyn at ddarllenydd dychmygol neu fel cyfres o lythyrau rhwng dau neu ragor o gymeriadau ffuglen. Mae'r nofel fer Ffarwel Weledig (1946) gan Cynan yn enghraifft dda o'r ffurf flaenorol yn y Gymraeg.
Roedd y nofel epistolaidd yn arbennig o boblogaidd gan lenorion y 18g yn Ewrop. Mae enghreifftiau adnabyddus yn cynnwys:
- Les Lettres portugaises (1669) yn Ffrangeg gan Claude Barbin
- Love-Letters Between a Nobleman and His Sister (1684) yn Saesneg gan Aphra Behn
- Pamela (1740) yn Saesneg gan Samuel Richardson
- Clarissa (1748) yn Saesneg gan Samuel Richardson
- Fanny Hill (1748) yn Saesneg gan John Cleland
- Julie, ou la Nouvelle Héloïse (1761) yn Ffrangeg gan Jean-Jacques Rousseau
- The Expedition of Humphry Clinker (1771) yn Saesneg gan Tobias Smollett
- Geschichte des Fräuleins von Sternheim (1771) yn Almaeneg gan Sophie von La Roche
- Die Leiden des jungen Werthers (1774) yn Almaeneg gan Johann Wolfgang von Goethe
- Les Liaisons dangereuses (1782) yn Ffrangeg gan Choderlos de Laclos
- Ultime lettere di Jacopo Ortis (1802) yn Eidaleg gan Ugo Foscolo
- Frankenstein, or The Modern Prometheus (1818) yn Saesneg Mary Shelley
- The Tenant of Wildfell Hall (1848) yn Saesneg gan Anne Brontë