Les Liaisons dangereuses
Nofel epistolaidd Ffrangeg enwog a ysfrifenwyd yn 1782 gan y llenor Ffrengig Pierre Choderlos de Laclos (1741–1803) yw Les Liaisons dangereuses. Ystyrir y nofel, sy'n adrodd hanes yr ymryson gwyriedig a nwydus rhwng dau libertin uchelwrol yng nghyfnod Yr Oleuedigaeth Ffrengig (le siècle des Lumières), yn un o weithiau mawr llenyddiaeth Ffrangeg.
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol, Nofel epistolaidd |
---|---|
Awdur | Pierre Choderlos de Laclos |
Gwlad | Ffrainc |
Iaith | Ffrangeg |
Dyddiad cyhoeddi | 23 Mawrth 1782 |
Genre | Nofel epistolaidd, libertine novel, erotica, ffuglen, naratif, drama, dychan, found manuscript |
Cymeriadau | Marquise de Merteuil, Vicomte de Valmont, Cécile de Volanges, Madame de Tourvel, Danceny |
Prif bwnc | trosedd, rhinwedd, moesoldeb, athroniaeth, cariad, teimlad, gohebiaith, rhyngweithiad, hapusrwydd, libertinism, cymdeithas, grym, vanity, persbectif, Aristocratiaeth, person bonheddig, Teyrnas Ffrainc, social dynamics, seduction, Llygredigaeth |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Lleoliad y gwaith | Paris, cefn gwlad |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Fframwaith y nofel yw cyfres o lythyrau rhwng y ddau brif gymeriad, yr Ardalyddes de Merteuil (Madame de Merteuil) a'r Is-iarll de Valmont (Valmont), ac eraill, sy'n disgrifio eu hymdrechion i hudo merch ifanc iawn - Cécile de Volanges - i golli ei morwyndod, a hynny er mwyn ennill bet.
Achosodd y nofel gryn sgandal ar y pryd a chafodd ei chamddeall a'i chomdemnio fel ymosodiad ar foes cymdeithas. Ond amddiffynnodd Laclos y llyfr. Camfernir y nofel gan rai hyd heddiw am fod yn wrth-fenywaidd ond ystyriai Laclos ei fod yn gweithio o blaid benywod mewn cymdeithas ac yn ceisio dyrchafu moes ei oes trwy ddulliau llenyddol arloesol. Yn ei eiriau ei hun,
- Peut-être ces mêmes Liaisons dangereuses, tant reporchées aujourd'hui par les femmes, sont une preuve assez forte que je me suis beaucoup occupé d'elles. (Efallai'n wir bod y Liaisons dangereuses hynny eu hunain, a feirniadir gymaint gan y merched, yn brawf digon cryf fy mod wedi ymroi llawer i'w hachos.)[1]
Addasiadau modern
golyguCeir sawl ffilm sy'n seiliedig ar y nofel, yn cynnwys:
- Les Liaisons dangereuses (1959), gan Roger Vadim, sy'n serennu Jeanne Moreau (Madame de Merteuil), Gérard Philipe (Valmont) ac Annette Vadim (Madame de Tourvel)
- Dangerous Liaisons (1988), gan Stephen Frears, sy'n serennu Glenn Close (Madame de Merteuil), John Malkovich (Valmont) a Michelle Pfeiffer (Madame de Tourvel) gyda Uma Thurman (Cécile de Volanges) a Keanu Reeves
- Valmont (1989), gan Miloš Forman, gyda Colin Firth (Valmont), Annette Bening (Madame de Merteuil) a Meg Tilly (Madame de Tourvel)
- Cruel Intentions (1999), gan Roger Kumble, sy'n gosod y stori ym Manhattan, gyda Ryan Phillippe (Sebastian Valmont), Sarah Michelle Gellar (Kathryn Merteuil) a Reese Witherspoon (Annette Hargrove)
- Untold Scandal (2003), gan E J-yong, sy'n gosod y stori yn Corea yn y 1930au, gyda Lee Mi-sook, Jeon Do-yeon a Bae Yong-joon
- Dangerous Liaisons (2012), gan Hur Jin-ho, sy'n gosod y stori yn Sianghai yn y 18g, gyda Zhang Ziyi, Jang Dong-gun a Cecilia Cheung
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Roger Vailland, Laclos par lui-même (Paris, 1953).