Iarlles y Ffynnon

Mae Iarlles y Ffynnon neu Owain yn chwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesau Canol. Mae'n un o'r tair stori (rhamant) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl Y Tair Rhamant.

Jesus-College-MS-111 00308 154v (cropped) Owain.jpg
Agoriad chwedl Owain ar lawysgrif Coleg yr Iesu, Rhydychen (MS 111)
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolmyth, llawysgrif Edit this on Wikidata
Rhan oMytholeg Gymreig, Llyfr Coch Hergest Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1382 Edit this on Wikidata
Owain yn cael ei daro gan gawod o genllysg wrth y ffynnon (engrafiad yng nghyfieithiad Charlotte Guest o'r Mabinogion (ail argraffiad, 1877)
Owain yn achub y llew. Paentiad mewn llawysgrif Ffrangeg.

Ceir y testun yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Hergest. Ceir testun rhannol mewn llawysgrif arall yng Ngholeg yr Iesu, Caergrawnt (MS XX). Dim ond yn Llyfr Coch Hergest mae'r testun cyflawn, fodd bynnag. Y ddwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw Peredur fab Efrawg a Geraint ac Enid.

Mae'r chwedl yn cyfateb i chwedl Yvain ou le Chevalier au lion gan yr awdwr Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylch o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn.

Yn y chwedl mae Owain, cymeriad sy'n seiliedig ar yr arwr Owain fab Urien o'r Hen Ogledd, yn priodi Iarlles y Ffynnon gyda chymorth ei llawforwyn Luned. Ar ôl tair blynedd yn amddiffyn y ffynnon, mae'n cael caniatad yr Iarlles i dreulio tri mis yn llys Arthur. Wedi cyrraedd yno, mae'n anghofio popeth am ei wraig ac yn aros am dair blynedd. Mae ei wraig yn ei ddiarddel ac Owain yn mynd yn wallgof am gyfnod, ond gyda chymorth llew mae wedi ei achub mae'n mynd trwy gyfres o anturiaethau yn llwyddiannus ac yn adennill ei wraig.

LlyfryddiaethGolygu

TestunauGolygu

  • R. L. Thomson (gol.), Owein or Chwedyl Iarlles y Ffynnawn (Dulyn, 1986). Golygiad o'r testun gwreiddiol, gyda nodiadau.
  • Y Tair Rhamant- y testun wedi'i ddiweddaru gan Bobi Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1960.

Darllen pellachGolygu

  • Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 1986. ISBN 0-7083-0915-1

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu