Peredur fab Efrawg

Chwedl Arthuraidd Gymraeg o'r Oesau Canol yw Peredur fab Efrawg (teitl Cymraeg Canol, Historia Peredur vab Efrawc). Mae'n un o'r tair stori (rhamant) Arthuraidd a adnabyddir wrth y teitl Y Tair Rhamant. Dwy chwedl arall yn y Tair Rhamant yw Iarlles y Ffynnon a Geraint ac Enid.

Peredur yn neuadd ei ewythr gyda'r Waywffon Waedlyd a dwy forwyn yn cludo'r Pen i'r ystafell; darlun yng nghyfieithiad yr Arglwyddes Charlotte Guest o'r Mabinogion (ail argraffiad, 1877)

Crynodeb o'r chwedl

golygu

Mae'r chwedl yn cyfateb i'r chwedl anorffenedig Perceval ou le Conte du Graal gan yr awdur Ffrangeg Chrétien de Troyes o ail hanner y 12g. Erbyn hyn cred ysgolheigion fod y ddau gylchg o chwedlau yn annibynnol ar ei gilydd ond bod elfennau ynddynt yn seiliedig ar waith hŷn. Credir i'r chwedl Gymraeg gael ei llunio yn ail hanner y 12g. Ceir y testun hynaf yn Llawysgrif Peniarth 4 (rhan o lawysgrif gyfansawdd Llyfr Gwyn Rhydderch), o tua diwedd y 13g. Ceir testun hefyd yn Llyfr Coch Hergest a llawysgrifau eraill, diweddarach. Mae'n amlwg fod y testun sydd gennym heddiw yn anghyflawn.

Yn y chwedl mae Peredur yn fab i iarll. Lladdwyd yr iarll a chwech brawd Peredur wrth frwydro, ac oherwydd hynny mae ei fam yn ei fagu heb wybodaeth o arfau. Mae'n cyfarfod tri marchog, ac o ganlyniad mae'n marchogaeth ar hen geffyl esgyrniog gyda basged yn lle cyfrwy ac yn mynd i lys Arthur. Yno, mae'n cyfafod Cai, sy'n ei wawdio ac yn ei yrru ar ôl marchog sydd wedi sarhau'r frenhines Gwenhwyfar. Gorchfyga Peredur y marchog, ei ladd a chymeryd ei farch a'i arfau.

Mae wedyn yn cael cyfres o anturiaethau, gan yrru'r marchogion y mae wedi eu gorchfygu i lys Arthur. Mae'n cyfarfod â dau ewythr iddo; mae'r cyntaf yn ei rybuddio i beidio â holi ystyr unrhyw beth a wêl, tra yn neuadd yr ail gwêl Peredur y Waywffon Waedlyd a dysgl a gludir gan ddwy forwyn gyda phen wedi ei dorri arni. Ymddengys fod y pen yn cymryd lle y Greal Santaidd yn stori Chretien. Treulia Peredur bedair blynedd ar ddeg gydag ymerodres Caergystennin.

Llyfryddiaeth

golygu

Testunau

golygu
 
Historia Peredur Vab Efrawc
  • Historia Peredur vab Efrawc - gol. gyda rhagymadrodd a nodiadau gan Glenys Witchard Goetinck (Gwasg Prifysgol Cymru, 1976). Adargraffiad 2012: ISBN 9780708326206
  • Y Tair Rhamant- y testun wedi'i ddiweddaru gan Bobi Jones. Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, Aberystwyth, 1960.

Darllen pellach

golygu
  • Rachel Bromwich, 'Dwy chwedl a thair rhamant', yn Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol (Gwasg Gomer, 1976)
  • Stephens, Meic (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Gwasg Prifysgol Cymru, 1986. ISBN 0-7083-0915-1