Chris Coleman (pêl-droediwr)
Rheolwr a chyn bêl-droediwr o Gymru yw Christopher "Chris" Coleman, OBE (ganwyd 10 Mehefin 1970 yn Abertawe).
Coleman gyda tîm Cymru yn 2016 | ||
Manylion Personol | ||
---|---|---|
Enw llawn | Christopher Coleman | |
Llysenw | Cookie | |
Dyddiad geni | 10 Mehefin 1970 | |
Man geni | Abertawe, Cymru | |
Clybiau Iau | ||
Manchester City | ||
Clybiau | ||
Blwyddyn |
Clwb |
Ymdd.* (Goliau) |
1987-1991 1991-1995 1995-1997 1977-2002 |
Abertawe Crystal Palace Blackburn Rovers Fulham Cyfanswm |
160 (2) 154 (13) 28 (0) 136 (8) 478 (23) |
Tîm Cenedlaethol | ||
1992-2002 | Cymru | 32 (4) |
Clybiau a reolwyd | ||
2003-2007 2007-2008 2008-2010 2011-2012 2012-2017 |
Fulham Real Sociedad Coventry City Larissa Cymru | |
1Ymddangosiadau a goliau mewn clybiau hŷn |
Gyrfa fel chwaraewr
golyguChwaraeai fel amddiffynnwr ond weithiau byddai'n chwarae fel blaenwr. Dechreuodd ei yrfa gyda Abertawe yn 17 oed, cyn symud i Crystal Palace yn 1991. Fe'i brynwyd gan Blackburn Rovers am £2.8 miliwn yn 1995, ond wedi dim ond 28 ymddangosiad mewn tymor a hanner, fe gymmerodd gambl drwy ymuno â thîm Fulham a oedd dwy adran yn is ar y pryd. Arweniniodd Fulham i ddyrchafiad i'r Adran Gyntaf fel capten yn nhymor 1998/1999. Yn mis Ionawr 2001, fe dorrodd ei goes mewn damwain car, ac arweiniodd hyn at ei ymddeoliad cynnar yn 2002.
Enillodd 32 o gapiau dros Gymru.
Gyrfa fel rheolwr
golyguFulham
golyguDaeth yn reolwr dros-dro i Fulham ar ddiwedd tymor 2002/2003 ac arwain y tîm o berygl disgyn allan o'r Uwchgynghair. Fe'i benodwyr yn reolwr llawn amser yn mis Mai 2003 a dod yn rholwr ieuengaf erioed yn yr Uwchgyngrhair. Cafod ei ddiswyddo yn Ebrill 2007 yn dilyn rhediad o saith gêm heb fuddigoliaeth.
Real Sociedad
golyguDaeth Coleman yn reolwr ar Real Sociedad ar 28 Mehefin 2007. Roedd y clwb newydd ddisgyn o brif adran Sbaen y tymor cynt, ac fe ddechreuodd y tymor yn wael, ond fe wellodd y canlyniadau. Ymddiswyddodd yn Ionawr 2008 gan ddweud nad oedd yn cytuno â gweledigaeth perchennog newydd y clwb.
Coventry City
golyguPenodwyd yn reolwr ar Coventry City yn mis Chwefror 2008 hyd mis Mai 2010.
Sunderland
golyguWedi gadael ei swydd gyda tîm Cymru cafodd ei benodi fel rheolwr Sunderland yn Nhachwedd 2017. Erbyn diwedd Ebrill 2018 dim ond 5 gêm allan o 29 enillodd y clwb a bydd y tîm yn gostwng i'r Adran Gyntaf yn nhymor 2018/19. Diswyddwyd Coleman o'i swydd ar 29 Ebrill 2018.[1]
Anrhydeddau
golyguYn Hydref 2016, dyfarnwyd rhyddid Abertawe iddo ac yn Rhagfyr 2016 derbyniodd Wobr Cydnabyddiaeth Arbennig yng Ngwobrau Chwaraeon Cymru am arwain ei dîm i rownd gynderfynol Ewrop 2016. Derbyniodd OBE am ei wasanaeth i'r byd pêl-droed yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn Ionawr 2017. Ar 11 Ionawr 2017 derbyniodd Gradd MSc er Anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.[2] Ar 17 Gorffennaf 2017 derbyniodd Gymrodoriaeth er Anrhydedd gan Brifysgol Bangor.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Chris Coleman wedi gadael Sunderland , Golwg360, 29 Ebrill 2018.
- ↑ Prifysgol Abertawe'n dyfarnu Gradd er Anrhydedd i Christopher Coleman. Prifysgol Abertawe (11 Ionawr 2017). Adalwyd ar 18 Gorffennaf 2017.
- ↑ Chris Coleman i’w anrhydeddu gan Brifysgol Bangor. Prifysgol Bangor (17 Gorffennaf 2017).