Chris Elmore
Gwleidydd yw Christopher Philip James Elmore (ganwyd 23 Rhagfyr 1983) sydd yn Aelod Seneddol Plaid Lafur dros Ogwr ers 2016.
Chris Elmore | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 23 Rhagfyr 1983 ![]() Casnewydd ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | gwleidydd, cynghorydd ![]() |
Swydd | Aelod o Senedd 57 y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 56 y Deyrnas Unedig, Aelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Shadow Minister for Scotland, Shadow Minister for Media, Data and Digital Infrastructure ![]() |
Plaid Wleidyddol | Llafur Cymru ![]() |
Gwefan | https://www.chriselmore.wales/ ![]() |
Bywyd a gyrfa cynnar golygu
Ganed a maged Elmore yng Nghasnewydd, de Cymru, lle y dechreuodd gweitho fel darpar gigydd. Nes ymlaen mynychodd Brifysgol Cardiff Met gan wneud gradd mewn Hanes a Diwylliant yn 2005. Gweithiodd Elmore wedyn mewn nifer o feysydd gan gynnwys Addysg Bellach.
Yn 2008, etholwyd Elmore yn Gynghorydd Casteland ym Mro Morgannwg. Ar ôl cyfnod, apwyntiwyd ef yn aelod cabinet dros wasanaethau plant ac ysgolion.
Gyrfa Seneddol golygu
Safodd Elmore yn aflwyddiannus am sedd Bro Morgannwg yn etholiad cyffredinol y DU 2015 cyn cael ei ddewis yn ymgeisydd Lafur yn is-etholiad Ogwr, 5 Mai, 2016[1]. Enillodd yr etholiad gyda mwyafrif o 8,575. Ym Mehefin 2016, daeth yn aelod o'r Pwylgor Dethol Cyfiawnder cyn ymuno â'r Pwyllgor Materion Cymreig ym mis Gorffennaf y flwyddyn honno. Ym mis Hydref 2016, fe;i hapwyntiwyd i'r meinciau blaen fel Chwip yr Wrthblaid[2].
Materion ieunctid golygu
Ers ei ethol, mae Elmore yn canolbwyntio ar fateriod ieunctid gan siarad yn aml yn gyhoeddus, gan gynnwys yn y Senedd, am y pwnc. Roedd ysgogi pobl ifainc yn bwnc yr oedd Elmore wedi ymgyrchu drosto ac yntau'n gynghorydd.[3]
Polisi Rheilffyrdd golygu
Yn 2017, cafodd Chris ei ethol yn Gadeirydd y Grŵp Seneddol Pob Plaid ar Reilffyrdd yng Nghymru. Roedd Chris wedi bod yn uchel ei gloch yn ei wrthwynebiad i benderfyniad y Llywodraeth i ganslo'r cynlluniau i drydaneiddio prif reilffordd y Great Western. At hynny, mae hefyd wedi ymgyrchu ar faterion yn ymwneud â diogelwch teithwyr.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Huw Irranca-Davies |
Aelod Seneddol dros Ogwr 2016 – presennol |
Olynydd: deiliad |