Christian Institute

Grwp ymgyrchu Cristnogol efengylaidd ffwndamentalaidd Prydeinig ydy The Christian Institute (CI). Rhedir y grwp gan Colin Hart. Mae'r CI yn cefnogi safbwynt Cristnogol ceidwadol, sy'n seiliedig ar anffaeledigrwydd Beiblaidd.[1][2] Mae'r CI yn elusen gofrestredig.[2] Nid yw'r grwp yn datgelu faint o staff neu wirfoddolwyr sydd ganddynt, gyda'r Cyfarwyddwr Colin Hart, yn cael ei restru'n unig fel cynrychiolydd.[3]

Tra bod y CI wedi ymgyrchu ar faterion megis gamblo, erthyliad a marwolaeth esmwyth, mae'n fwyaf adnabyddus am ei ymgyrchoedd yn erbyn cyfunrywioldeb. Ymgyrchodd y CI i gadw Adran 28[4] ac oed cydsynio uwch ar gyfer pobl LHDT. Gwrthwynebodd y grwp y Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, Deddf Priodas (Cyplau o'r un rhyw) 2013 a deddfwriaeth yn caniatau cyplau hoyw i fabwysiadu.[5] Maent hefyd wedi gwrthwynebu deddwriaeth yn atal rhagfarnu yn erbyn pobl hoyw o ran darparu nwyddau a gwasanaethau iddynt.[6] Yn y pen draw, cyflwynwyd y Ddeddf Partneriaethau Sifil 2004, y Deddf Priodas (Cyplau o'r un rhyw) 2013 a'r Ddeddf Cydraddoldeb 2010 gan Senedd y Deyrnas Unedig.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Gwefan y Christian Institute". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-02-02. Cyrchwyd 2015-07-31.
  2. 2.0 2.1 Nodyn:EW charity
  3. Amdanom ni
  4.  Section 28: Briefing Paper.
  5. Counterfeit Marriage Archifwyd 2012-07-28 yn y Peiriant Wayback. ar wefan Christian Institute; cyrchwyd ar 2012-08-16
  6. Govt pushes on with ‘costly’ Equality Bill ar wefan Christian Institute; cyrchwyd ar 2012-08-16