Deddf Partneriaeth Sifil 2004

Mae'r Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004, a gyflwynwyd gan lywodraeth y Blaid Lafur, yn rhoi yr un hawliau a chyfrifoldebau i bartneriaethau sifil ag sydd gan briodasau sifil yn y DU. Mae gan bartneriaid sifil yr un hawliau eiddo a chyplau priod heterorywiol, yr un eithriadau a chyplau priod ar dreth etifeddiaeth, nawdd cymdeithasol a hawliau pensiwn, yn ogystal â'r hawl i gael cyfrifoldeb am blant eu partner.[1] Mae'r ddeddf hefyd yn cynnwys hawliau tenantiaid, cydnabyddiaeth yswiriant bywyd llawn, hawliau perthynas agosaf mewn ysbytai a hawliau eraill.[2] Mae yna broses ffurfiol i ddileu partneriaethau sy'n debyg i ysgariad.

Deddf Partneriaeth Sifil 2004
Enghraifft o'r canlynolDeddf Gyhoeddus Gyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi2004 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata

Atodiad 20 golygu

Mae Atodiad 20 yn cydnabod bod rhai uniadau tramor yn gyfatebol i bartneriaethau sifil o dan ddeddfwriaeth y DU. Caiff cyplau hoyw sy'n cael un o'r uniadau hyn eu cydnabod yn awtomatig yn y DU fel partneriaid sifil.

Mae Atodiad 20 yn medru cael ei addasu, a gallai mwy o bartneriaethau tramor gael eu hychwanegu wrth i fwy o wledydd ledled y byd gyflwyno partneriaethau sifil neu ddeddfwriaeth priodas hoyw. Ar y 5ed o Ragfyr, 2005, cafodd yr atodiad gwreiddiol o 2004 ei addasu i gynnwys nifer o wledydd a thaleithiau eraill.[3] Felly, nid yw Atodiad 20 yn cynnwys perthynasau a grëwyd ers hynny. Mae perthynasau tramor sy'n cael eu derbyn o dan amodau Atodiad 20 yn cynnwys (fersiwn diwygiedig):

  • Andorra: unió estable de parella (undeb partneriaeth sefydlog)
  • Awstralia: Tasmania – perthynas arwyddocaol‡
  • Gwlad Belg: priodas a chyd-fyw légale/wettelijke samenwoning/gesetzliches Zusammenwohnen (cyd-fyw statudol)
  • Canada: priodas, yn ogystal â phartneriaeth domestig Nova Scotia ac undeb sifil Quebec union civile
  • Denmarc: registreret partnerskab (partneriaeth cofrestredig)
  • Ffindir: rekisteröity parisuhde/registrerad partnerskap (partneriaeth cofrestredig)
  • Ffrainc: Pacte civil de solidarité (cytundeb cydlyniad sifil)
  • Yr Almaen: Lebenspartnerschaft (partneriaeth bywyd)
  • Gwlad yr Iâ: staðfesta samvist (cyd-fyw wedi'i gadarnhau)
  • Lwcsembwrg: partenariat enregistré/eingetragene Partnerschaft (partneriaeth cofrestredig)
  • Yr Iseldiroedd: marriage and geregistreerd partnerschap (partneriaeth cofrestredig)
  • Seland Newydd: uniad sifil
  • Norwy: registrert partnerskap (partneriaeth cofrestredig)
  • Sbaen: priodas
  • Sweden: registrerat partnerskap (partneriaeth cofrestredig)
  • Wrwgwái: uniad sifil
  • Unol Daleithiau:

‡ Crëwyd uniadau sifil yn New Jersey ac uniadau eraill mewn amryw o daleithiau Awstraliaidd ar ôl i Atodiad 20 gael ei diweddaru a sonir am y rhain isod.

Uniadau a Gyflwynwyd Ers i Atodiad 20 gael ei Diweddaru Ddiwethaf golygu

Crëwyd yr uniadau canlynol ers y cafodd Atodiad 20 ei diweddaru ddiwethaf, ac felly rhaid i gyplau brofi fod eu huniad yn ateb gofynion Adran 214 o'r Ddeddf er mwyn eu cofrestru fel partneriaid sifil:

Gweler Hefyd golygu

Hawliau LHDT yn y Deyrnas Unedig

Dolenni Allanol golygu

Cyfeiriadau golygu