Agor y brif ddewislen

Gitarydd, canwr, a chyfansoddwr Americanaidd oedd Charles Edward Anderson "Chuck" Berry (18 Hydref 192618 Mawrth 2017).[1] Roedd yn gerddor poblogaidd iawn ac yn cael ei ystyried fel un o arloeswyr roc a rôl. Ymhlith ei ganeuon enwocaf mae "Johnny B. Goode", "Roll Over Beethoven", "You Never Can Tell", "Rock and Roll Music", My Ding a Ling" a "Route 66".

Chuck Berry
Berry yn 1957
Y Cefndir
Enw
(ar enedigaeth)
Charles Edward Anderson Berry
Ganwyd (1926-10-18)18 Hydref 1926
St. Louis, Missouri, Yr Unol Daleithiau
Bu farw 18 Mawrth 2017(2017-03-18) (90 oed)
St. Charles, Missouri, U.D.A
Math o Gerddoriaeth Roc a rol
Gwaith Cerddor, canwr, awdur caneuon
Offeryn/nau Gitar, llais
Cyfnod perfformio 1955–2017
Label Chess, Mercury, Atco
Perff'au eraill Johnnie Johnson, T-Bone Walker, Muddy Waters
Gwefan www.chuckberry.com
Offerynnau nodweddiadol
Gibson ES-350
Gibson ES-355
Chuck Berry, You can't catch me, 1956.

Fe'i ganwyd yn St. Louis, Missouri. Cafodd ei addysg yn yr ysgol Sumner. Aeth i garchar am ysbeiliad tra dal yn yr ysgol. Priododd Themetta "Toddy" Suggs ar 28 Hydref 1948.

Bu farw yn ei gartref yn St. Charles County, Missouri.

CyfeiriadauGolygu

  1. Rock and roll legend Chuck Berry dies (en) , BBC News, 18 Mawrth 2017.
   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.