Sacsoffon
Offeryn cerdd chwythbren yw'r sacsoffon a ddyfeisiwyd gan Adolphe Sax ym 1846. Bwriad Sax oedd creu offeryn y byddai'n hawdd i'w chwarae mewn ystod o allweddi a thros amrediad eang - yn yr un ffordd a oedd yn bosib gydag offerynnau chwyth fel clarinet neu ffliwt - tra'n creu sŵn pwerus fyddai'n bosib ei glywed uwchben nifer o synau eraill, fel oedd yn bosib gydag offerynnau pres. Bwriadwyd yr offeryn yn wreiddiol ar gyfer bandiau milwrol neu fandiau pres, ac fe greodd Sax nifer fawr o fersiynau gwahanol mewn nifer o allweddi gwahanol gydag ystod enfawr, er mai pedwar fersiwn yn unig sy'n gyffredin heddiw:
- Sacsoffon soprano yn B♭
- Sacsoffon alto yn E♭
- Sacsoffon tenor yn B♭
- Sacsoffon baritôn yn E♭
Enghraifft o'r canlynol | math o offeryn cerdd |
---|---|
Math | offeryn cerdd chwythbren, single clarinets with conical bore, offeryn cerdd â brwynen sengl |
Gwlad | Gwlad Belg |
Dechrau/Sefydlu | 1840 |
Yn cynnwys | Saxophone tone hole |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Er bod sacsaffonau o fathau gwahanol yn amrywio o ran siap a maint, maent yn creu sain yn yr un ffordd ac mae'r dechneg o ran byseddu yr un fath; mae hyn yn golygu y gall unigolion sydd wedi dysgu i chwarae sacsoffon o un fath godi un o fath arall a'i chwarae yn weddol hawdd. Mae'r sacsoffon wedi ei adeiladu o bres yn bennaf, fel trwmped neu drombôn. Fodd bynnag, nid offeryn pres go iawn yw'r sacsoffôn: o ran y dull a ddefnyddir i greu sŵn, mae'r sacsoffon yn debyg iawn i'r clarinet ac yn creu sain drwy drwy ddefnyddio corsen yn yr un ffordd. Mae'r sacsoffon felly yn perthyn i deulu yr offerynnau chwyth ac mae sŵn y sacsoffon yn ymdebygu i sŵn y clarinet, er bod y dull o'i chwarae o ran allweddau'r offeryn yn debyg iawn i'r ffliwt clasurol fodern - seiliodd Sax yr offeryn ar system Theobald Boehm ar gyfer y ffliwt.
Mae'r sacsoffon yn offeryn boblogaidd mewn jazz, bandiau milwrol a ska ymysg mathau eraill o gerddoriaeth.
Sacsaffonwyr Enwog
golyguSacsoffonwyr jazz:
- Sidney Bechet (1897-1959) - soprano yn ogystal â'r clarinet
- Coleman Hawkins (1904-1969) - tenor
- Lester Young (1909-1959) - tenor
- Benny Carter (1907-2003) - alto yn ogystal ag offerynnau eraill
- Charlie Parker (1920-1955) - alto
- Dexter Gordon (1923-1990) - tenor
- Paul Desmond (1924-1977) - alto
- John Coltrane (1926-1967) - tenor gan fwyaf, soprano
- Gerry Mulligan (1927-1996) - baritôn
- Ornette Coleman (1930-2015) - alto
- Sonny Rollins (1930-) - tenor
- Wayne Shorter (1933-) - tenor a soprano
- Steve Lacy (1934-2004) - soprano
- Anthony Braxton (1945-) - alto yn enwedig, ond yn chwarae sacsoffonau o bob math gan gynnwys rhai anarferol a phrin
- Michael Brecker (1949-2007) - tenor gan fwyaf
- Joe Lovano (1952-) - tenor gan fwyaf, ond yn chwarae sacsoffonau o bob math
- David Murray (1955-) - tenor yn ogystal â chlarinet bas
Sacsoffonwyr pop:
- Kenny G (1956-)