Chwarel Trwyn y Fuwch
Chwarel galchfaen ger Llandudno oedd Chwarel Trwyn y Fuwch neu Chwarel y Gogarth Fach.
Sefydlu'r Chwarel
golyguSefydlwyd y chwarel gan Edward Fidler a ffurfiodd Gwmni Little Orme’s Headland Limestone ar 25 Mawrth 1889 pan sicrhaodd les gan Arglwydd Mostyn am gyfnod o 30 mlynedd am dâl o £150 y flwyddyn yn ogystal ag un geiniog am bob tunnell o gerrig a gloddwyd ohono. Ar 1 Gorffennaf 1889 cymerwyd y les drosodd gan Joseph Storey a’i fab, Robert, o Bacup, Sir Gaerhirfryn. Roedd gan y teulu yma chwarel arall yn Millers Dale, Buxton. Yn ystod y cyfnod buont yn byw yn Shimdda Hir, ar lethrau’r Gogarth Fach, sydd erbyn hyn wedi ei droi’n fwyty a gwesty o'r enw Craigside Inn.
Un o'r chwareli mwyaf o'i bath
golyguAr droad yr 20g roedd y chwarel yn un o’r rhai mwyaf o’i bath yn yr ardal ac yn 1896 cyflogai hanner cant o ddynion yn ogystal â 29 oedd ar 'waith allanol'. Erbyn 1905 dyn o’r enw Nathan Smallpage o Craigmoor, Ffordd Bryn y Bia oedd cadeirydd y fenter a chafwyd les newydd o 30 mlynedd gan ehangu’r tir oedd ar gyfer cloddio. Ond, ’roedd pris uwch i’w dalu— £300 y flwyddyn a cheiniog a dimai y dunnell am bob tunnell a gloddiwyd dros 24,000. Un o’r amodau oedd bod yn rhaid i’r cerrig a gloddiwyd gael eu cludo o’r chwarel mewn llongau. Un arall, nid oedd ochr y Gogarth Fach (sy'n wynebu Llandudno) i’w gloddio ac nad oedd yr un odyn galch i’w chodi y gallai ei mwg amharu ar dref Llandudno!
Erbyn hyn ‘roedd y cerrig a gloddiwyd wedi gostwng o 90,000 o dunelli i 45,000 y flwyddyn. Ond, ‘roedd galw aruthrol am gerrig i wneud sment a gwnaed cytundeb gyda ’Stanlow Cement Co’. Yn 1911, enw’r cwmni oedd ’Ship Canal Portland Cement’, ac yn ôl adroddiadau ‘roedd peiriant malu cerrig arbennig ar y safle, ac ’roedd yn bosib’ i stemars 1,000 o dunelli lwytho ar y lanfa o fewn awr. Pwynt pwysig arall oedd fod y garreg yn rhyfeddol o bur ac yn addas iawn ar gyfer cynhyrchu sment Portland. Rhwng 1911 a 1922 ’roedd y cwmni’n gyfrifol am Chwarel Garth yn Llangwstennin ble ‘roeddynt yn cloddio am siâl.
Moderneiddio
golyguBu gwaith moderneiddio sylweddol ar y safle rhwng 1926 a 1927 gyda pheiriant newydd i falu’r cerrig, 4 "hopper" i storio’r cerrig, cwt yr injan, cwt boiler a chwt glo. Adeiladwyd gweithdy ar gyfer yr injans stêm, efail y gof, a siediau ar gyfer storio’r injans.
Y Diwedd
golyguEr yr holl welliannau -a chytundeb newydd gyda Stad Mostyn o rent £500 y flwyddyn, daeth y cyfan i ben yn Rhagfyr 1931.
Aeth rhai o’r dynion i weithio i Chwarel Nant y Gamar. Bellach, ‘does fawr ddim ar ôl ond gweddillion yr hen olwyn weindio a welir isod.
Yr hyn sydd ar ôl o'r chwarel heddiw
golygu-
Yr hen olwyn weindio.
-
Y cyfan sydd ar ôl o'r hen inclên.
-
Golygfa o hen ran o'r chwarel.
-
Goygfa o'r hen chwarel o Riwledyn.
Cyfeiriadau
golyguCyhoeddwyd ym mhapur bro Y Pentan gan Gareth Pritchard.