Chwarennau isfandiblaidd

Mae'r chwarren isfandiblaidd yn chwarren boer o faint amrywiol (7 i 15 g) sydd wedi'i leoli yn y blwch isfandiblaidd, o dan y mandibl para-ganol. Maent yn cyfrannu rhyw 60-67% o boer sydd heb ei sbarduno. Wrth i'r geg dechrau sbarduno poer, er enghraifft trwy gnoi, mae eu cyfraniad yn gostwng yn gymesur wrth i'r secretiadau parotid godi i 50%[1].

Chwarennau isfandiblaidd
Enghraifft o'r canlynolmath o chwarren, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathmajor salivary gland, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dwythell ysgarthol y chwarren yw camlas Wharton sy'n draenio yn isdafodol ar ddwy ochr y tafod.

Mae'r chwarren yn derbyn ei gyflenwad gwaed o'r rhydwelïau'r wyneb a'r tafod. Cyflenwir y chwarren gan rydwelïau isdafodol ac isenol ac yn cael ei ddiferu gan wythiennau cyffredin y geg a gwythiennau cyffredin y tafod.

Arwyddocâd clinigol golygu

Mae'r chwarren isfandiblaidd yn gyfrifol am tua 80% o holl gerrig y dwythellau poer o bosib oherwydd natur wahanol y poer mae'n ei gynhyrchu.

Cyfeiriadau golygu

  1. Textbook And Color Atlas Of Salivary Gland Pathology Diagnosis And Management, Eric R. Carlson a Robert A. Ord, Wiley-Blackwell, 2008, tudalen 3


  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.