Chwarren boer
Mae'r chwarennau poer mewn mamaliaid yn chwarennau ecsocrin h.y. mae ganddynt ddwythelli cludo hylif, sef y poer. Maen nhw hefyd yn secretu amylas, sef ensym dreuliol sy'n torri starts i lawr yn maltos a glwcos. Mewn pobol, a rhai anifeiliaid eraill, y secretiad yw alffa-amylas, a gaiff ei adnabod hefyd dan yr enw ptyalin.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | gland type, dosbarth o endid anatomegol, strwythur anatomegol ![]() |
Math | exocrine gland, lobular organ, endid anatomegol arbennig ![]() |
![]() |

1: Y geg 2: Taflod 3: Gwacter 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Is-fantol 8: Is-dafod 9: Parotid 10: Isfantol 11: Oesoffagws (y llwnc) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Dwythell y bustl 15: Stumog | 16: Pancreas 17: Pibell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag 21: Ilëwm 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon traws 25: Colon esgynnol 26: Caecwm 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rectwm 30: Anws |
Anifeiliaid eraillGolygu
Mae chwarennau rhai anifeiliaid wedi'u haddasu, drwy esblygiad, i gynhyrchu proteinau; ceir amylas poerol yn y rhan fwyaf o adar a mamaliaid (gan gynnwys bodau dynol). Math o chwarennau poer wedi'u haddasu sydd gan y neidr i gynhyrchu gwenwyn, ac felly hefyd yr 'anghenfil Gila' a'r chwistlen (neu'r Sorex araneus).[1]
Ond mewn anifeiliaid fel pryfaid, caiff y chwarennau poer eu defnyddio i gynhyrchu proteinau allweddol fel sidan neu lud, ac mae'r chwarennau'n cynnwys cromosomau polyten sydd wedi bod yn hynod o ddefnyddiol o fewn maes ymchwil i geneteg.
Gweler hefydGolygu
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Romer, Alfred Sherwood; Parsons, Thomas S. (1977). The Vertebrate Body. Philadelphia, PA: Holt-Saunders International. tt. 299–300. ISBN 0-03-910284-X.