Chwarennau parathyroid

Mae chwarennau parathyroid yn chwarennau endocrin bach yn y gwddf sy'n cynhyrchu hormon parathyroid. Fel rheol mae gan bobl pedair chwarren barathyroid, sydd wedi'u lleoli tu nol i'r chwarren thyroid. Mae gan hormon parathyroid a chalsitonin (un o'r hormonau a wneir gan y chwarren thyroid) rolau allweddol wrth reoleiddio faint o galsiwm sydd yn y gwaed ac o fewn yr esgyrn[1].

Chwarennau parathyroid
Enghraifft o'r canlynolmath o chwarren, dosbarth o endidau anatomegol Edit this on Wikidata
Mathchwarren endocrin, homogeneous organ, endid anatomegol arbennig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Y chwarennau parathyroid (gwyrdd)

Strwythur golygu

Mae'r chwarennau parathyroid yn ddau bar o chwarennau, sydd fel arfer wedi'u lleoli y tu ôl i labedau chwith a de'r thyroid. Mae'r chwarennau yn hirgrwn ac yn edrych yn debyg i bysen felen tua 6mm o hyd a 3 i 4mm o led. Fel arfer mae pedair chwarren barathyroid. Gelwir y ddwy chwarren sydd wedi'u lleoli yn uwch yn '"chwarennau parathyroid uwchraddol". Gelwir y ddau is yn "chwarennau parathyroid israddol". Yn gyffredinol, mae chwarennau parathyroid iach yn pwyso tua 30 mg mewn dynion a 35 mg mewn menywod.

Histoleg golygu

Mae'r chwarennau parathyroid wedi'u henwi am eu hagosrwydd at y thyroid[2] - ac maent yn gwasanaethu rôl hollol wahanol i'r chwarren thyroid. Mae'r chwarennau parathyroid yn hawdd eu gwahanu o'r thyroid gan fod ganddynt gelloedd wedi'u pacio'n ddwys, yn wahanol i strwythur ffoliglaidd y thyroid.

Mae dau fath unigryw o gelloedd yn bresennol yn y chwarren barathyroid:

  • Prif gelloedd, sy'n syntheseiddio a rhyddhau'r hormon parathyroid. Mae'r celloedd hyn yn fach, ac maent yn ymddangos yn dywyll pan fyddent wedi eu llenwi â'r hormon parathyroid, ac yn glir pan fo'r hormon wedi'i ddileu, neu yn eu cyflwr gorffwys.
  • Mae gan y celloedd ocsiffil ymddangosiad ysgafnach ac maent yn gynnydd yn eu nifer wrth i berson heneiddio. Mae eu swyddogaeth yn anhysbys ar hyn o bryd.

Swyddogaeth golygu

Prif swyddogaeth y chwarennau parathyroid yw cynnal lefelau calsiwm a ffosffad y corff o fewn ystod gul iawn, fel bod y systemau nerfus a chyhyrol yn gallu gweithredu'n iawn. Mae'r chwarennau parathyroid yn gwneud hyn trwy secretu'r hormon parathyroid[3].

Cyfeiriadau golygu