Hanes Taliesin

(Ailgyfeiriad o Chwedl Taliesin)

Chwedl Gymreig yn dyddio o'r Canol Oesoedd yw Hanes Taliesin (hefyd weithiau "Chwedl Taliesin"). Fe'i ceir yn ei ffurf gyflawnaf gan Elis Gruffydd yn y 16g dan yr enw Ystoria Taliesin, ond credai Syr Ifor Williams y gallai'r gwreiddiol fod yn dyddio o'r 9fed neu'r 10g. Mae'n rhoi hanes am y bardd Taliesin.

Crynodeb o'r chwedl

golygu

Yn ôl y chwedl, roedd gan Ceridwen a'i gŵr Tegid Foel ddau blentyn. Roedd y ferch, Creirwy, yn arbennig o hardd, ond roedd y mab, Morfran ap Tegid, yn eithriadol o hyll. Gan ei fod mor hyll, penderfynodd Ceridwen y byddai'n rhoi "awen a gwybodaeth" iddo i wneud iawn am hynny. Bu'n berwi pair gydag amrywiaeth o lysiau am flwyddyn a diwrnod, gyda'r bwriad fod Morfan yn ei yfed ac yn cael yr awen. Roedd hen ŵr dall o'r enw Morda yn cadw'r tân dan y pair, a Gwion Bach yn gofalu am y pair.

 
Ceridwen yn berwi'r perlysiau yn y pair, gyda Gwion Bach o'i blaen (llun: J. E. C. Williams, tua 1900)

Pan oedd y gymysgedd bron yn barod, tasgodd tri dafn o'r pair ar law Gwion Bach, a chan eu bod mor boeth, fe'i rhoes yn ei geg. Sylweddolodd Ceridwen ar unwaith ei fod ef wedi ei gynysgaeddu a'r awen yn lle ei mab, a dechreuodd ei ymlid. Newidiodd Gwion Bach ei ffurf yn ysgyfarnog, ond newidiodd Ceridwen ei hyn yn filiast i'w ymlid. Yna trodd Gwion yn bysgodyn, a Ceridwen yn ddyfrgi. Trodd Gwion ei hun yn aderyn, a throdd Ceridwen yn walch i'w ymlid; yna pan oedd y gwalch bron a'i ddal, gwelodd Gwion bentwr o wenith. Trodd ei hun yn ronyn gwenith ynghanol y pentwr, ond trodd Ceridwen ei hun yn iar a'i fwyta.

Wedi bwyta Gwion beichiogodd Ceridwen, a naw mis yn ddiweddarach ganwyd plentyn iddi. Gwyddai Ceridwen mai Gwion Bach oedd y plentyn, ond roedd mor dlws fel na allai ei ladd. Gosododd ef mewn cwdyn o groen a'i daflu i'r môr.

 
Elffin yn darganfod Taliesin yng Nghored Wyddno - darlun rhamantus a gyhoeddwyd yn argraffiad 1877 o Mabinogion yr Arglwyddes Charlotte Guest

Roedd gored bysgod yn eiddo i Gwyddno Garanhir ar y traeth rhwng Afon Dyfi ac Aberystwyth, a cheid gwerth can punt o bysgod yn y gored yma bob Calan Mai. Roedd un o feibion Gwyddno, Elffin, yn nodedig am ei anlwc, felly rhoes Gwyddno yr hawl iddo i dynny'r gored ar Galan Mai y flwyddyn honno, yn y gobaith y byddai ei ffawd yn newid. Pan aeth Elffin i dynnu'r gored, nid oedd dim ynddi ond y cwdyn lledr yn cynnwys y baban. Cododd Elffin y baban a dywedodd wrth ei was "Llyma dal iesin" ('Dyma dalcen teg'): "Taliesin bid!" atebodd y baban.[1] Canodd y baban gerdd iddo, 'Dihuddiant Elffin,' a oedd ymhlith y cerddi mwyaf adnabyddus yn yr Oesoedd Canol Diweddar. Mae'n dechrau gyda'r pennill

'Elffin teg, taw a'th wylo;
Ni wna lles drwg obeithio;
Ni chad yng ngored Wyddno
Erioed gystal â henno.'

Aeth Elffin ag ef adref i'w fagu gan ei wraig. Yn ddiweddarch mae Elffin yn mynd a Thaliesin i lys Maelgwn Gwynedd yn Neganwy, lle mae'n ennill gornest yn erbyn beirdd Maelgwn ac yn achub Elffin o garchar.

Cyfatebiaethau Gwyddelig

golygu

Ceir hanes tebyg iawn ym Mytholeg Iwerddon am yr arwr Fionn mac Cumhaill. Pan oedd yn ieuanc bu Fionn yn ddisgybl i'r bardd a derwydd Finn Eces neu Finnegas, ger Afon Boyne. Treuliodd Finneces saith mlynedd yn ceisio dal "eog doethineb", oedd yn byw mewn pwll yn yr afon. Byddai'r sawl a fwytai'r eog yma yn berchen ar yr holl wybodaeth yn y byd. Yn y diwedd, daliodd Finneces yr eog a gorchymynodd i Fionn ei goginio iddo. Wrth wneud, llosgodd Fionn ei fawd ar yr eog, a rhoddodd ei fawd yn ei geg, gan lyncu darn o groen yr eog, gan ddod yn berchen yr holl wybodaeth yn lle ei feistr.

Llyfryddiaeth

golygu
  • Patrick K. Ford (gol.), Ystoria Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1992). Testunau golygiedig.
  • Ifor Williams, Chwedl Taliesin (Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd, 1957). Astudiaeth.

Cyfeiriadau

golygu
  1. P.K. Ford (gol.), Ystorya Taliesin (Caerdydd, 1992), t. 69.

Gweler hefyd

golygu