Ifor Williams
Ysgolhaig Cymraeg oedd Syr Ifor Williams (16 Ebrill 1881 – 4 Tachwedd 1965), un o ffigyrau mwyaf blaengar ym myd astudiaethau Celtaidd yng Nghymru yn yr ugeinfed ganrif. Ei arbenigedd oedd llenyddiaeth Gymraeg gynnar, yn enwedig barddoniaeth Hen Gymraeg. Cynhyrchodd y golygiadau safonol o nifer o destunau o bwys, yn enwedig Canu Aneirin, Canu Taliesin a Pedair Cainc y Mabinogi. Treuliodd ei holl yrfa ym Mangor, ger ei bentref genedigol, lle roedd e'n athro yn Adran Gymraeg y brifysgol.
Ifor Williams | |
---|---|
Ganwyd | 16 Ebrill 1881 Tre-garth |
Bu farw | 4 Tachwedd 1965 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ieithydd, beirniad llenyddol |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrawd yr Academi Brydeinig |
- Erthygl am yr ysgolhaig yw hon. Am y cwmni Cymreig gweler Trelars Ifor Williams.
Meddai Bob Owen, Croesor amdano: "ef yw'r myfyriwr caletaf yn ein hanes fel cenedl".[1]
Bywgraffiad
golyguFe'i ganed ym Mhendinas, Tregarth, ger Bangor, yn fab i chwarelwr, John Williams a'i wraig Jane. Cafodd ei addysg yng Ngholeg Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor, lle astudiodd Gymraeg a Groeg. Dysgodd yno tan iddo ymddeol yn 1947. Penodwyd yn ddarlithydd cynorthwyol o dan yr Athro Syr John Morris-Jones. Derbyniodd gadair bersonol yn 1920, gan ddod yn bennaeth ar yr Adran Gymraeg yno pan fu farw Morris-Jones yn 1929.
Cyfraniad i astudiaethau Celtaidd
golyguRoedd prif gyfraniad Wiilliams i ysgolheictod Cymraeg ym maes barddoniaeth gynnar. Golygodd nifer o testunau cynnar pwysig, sef y gweithiau barddol Canu Llywarch Hen (1935), Canu Aneirin (1938, y testun safonol cyntaf o'r Gododdin), Armes Prydain (1955) a Chanu Taliesin (1960).
Gwnaeth gyfraniad o bwys i astudiaeth rhyddiaith Gymraeg ganoloesol hefyd. Golygodd y gweithiau rhyddiaith Breuddwyd Maxen, Cyfranc Lludd a Llevelys (1910), Chwedlau Odo a Pedeir Keinc y Mabinogi. Golygydd Y Traethodydd oedd ef o 1939 tan 1964 a golygydd Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd o 1937 tan 1948. Mae ei argraffiad o'r Pedair Cainc yn dal i fod yn safonol heddiw.
Rhai gweithiau eraill
golyguUn o hoff bynciau Ifor Williams oedd enwau lleoedd Cymraeg ac erys ei gyfrol Enwau Lleoedd (1945) yn gyflwyniad safonol i'r pwnc. Ysgrifennodd yn ogystal Meddwn I (1946), cyfres o draethodau radio poblogaidd ar bynciau amrywiol. Mae'r gyfrol I Ddifyrru'r Amser (1959) yn cynnwys nifer o ysgrifau byr amrywiol, e.e. atgofion am ei blentyndod, myfyrdodau, ac ati.
Gweithiau
golyguCeir llyfryddiaeth lawn o waith Ifor Williams yn y gyfrol Sir Ifor Williams[:] A Bibliography, gol. Alun Eirug Davies (allbrintiwyd o Studia Celtica IV). Defnyddiol hefyd yw Mynegai i weithiau Ifor Williams, gol. Thomas Parry (Caerdydd, 1939).
- (gol.) Breuddwyd Maxen (Bangor: Jarvis a Foster, 1908)
- (gol.) Casgliad o Waith Ieuan Deulwyn (Bangor: Welsh Manuscripts Society, 1909)
- (gol. gyda Thomas Roberts) Cywyddau Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr (Bangor: Evan Thomas, 1914)
- (gol. gyda Henry Lewis a Thomas Roberts) Cywyddau Iolo Goch ac Eraill, 1350–1450 (Bangor: Evan Thomas, 1925; ail argraffiad diwgiedig, 1938)
- (gol.) Canu Llywarch Hen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
- (gol.) Pedeir Keinc y Mabinogi (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
- (gol.) Canu Aneirin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1938)
- Lectures on Early Welsh Poetry (Dublin: Dublin Institute of Advanced Studies, 1944)
- Enwau Lleoedd (Lerpwl: Gwasg y Brython, 1945)
- Meddwn i (Llandebie: Llyfrau’r Dryw, 1946)
- Chwedl Taliesin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1957)
- (gol.) Canu Taliesin (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1960)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Dyfed Evans, Bywyd Bob Owen (Caernarfon: Gwasg Gwynedd, 1979), t. 75.