Chwilys (drama)
Drama Gymraeg yw Chwilys gan Aled Jones Williams. Perfformiwyd y ddrama am y tro cyntaf yn 2010 gan Theatr Tandem. Cyfarwyddwyd gan Valmai Jones a’r actorion oedd Owain Arwyn a Martin Thomas.
Plot
golyguDrama dau gymeriad yw Chwilys wedi ei ysgrifennu fel deialog rhwng dau ddyn sydd ddim yn cael ei enwi. Mae Dyn 1 yn gyfieithydd ac wedi cyfieithu casgliad o gerddi o'r Iran i'r Gymraeg, mae'n paratoi i fynd i'r noson lansio ei gyfrol yn yr Academi Gymraeg pan mae Dyn 2 (sy'n ymddangos fel ysbïwr i'r llywodraeth neu'r fyddin) yn camu allan o'i wardrob gan ddechrau gofyn cwestiynau iddo. Mae'r cwestiynau yn dechrau i ffwrdd fel rhai digon dibwrpas neu'n ddiogel, ond maen nhw'n troi'n effaith tywyll wrth i Ddyn 2 gyhuddo Dyn 1 o fod yn rhan o ymosodiad terfysg. Mae yna elfennau gwleidyddol yn y ddrama, mae'n son amdano ddewis Llywodraeth Prydain i fynd i 'rhyfel yn erbyn terfysgaeth'.
Mae'r actor sy'n chwarae Dyn 2 yn rhaid penderfynu a fyddai'n lladd ei hun neu'n lladd Dyn 1 erbyn y diwedd. Mae yna ddau fath o ddiweddglo i'r ddrama.
Gweler hefyd
golyguMerched Eira a Chwilys - cyfrol yn cynnwys sgript y ddrama.
Cyfeiriadau
golyguTri Dramodydd Cyfoes: Meic Povey, Siôn Eirian ac Aled Jones Williams – Traethawd doethuriaeth Manon Wyn Williams, Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor Hydref 2015