Aled Jones Williams

offeiriad yr Eglwys yng Nghymru, llenor a dramodydd Cymreig

Llenor a dramodydd Cymreig yw Aled Jones Williams (ganed ym 1956).[1]

Aled Jones Williams
Ganwyd1956 Edit this on Wikidata
Llanwnda Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethysgrifennwr, offeiriad Edit this on Wikidata

Yn 2002, enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Cymru Tyddewi 2002 gydag Awelon.[2] Cafodd ei lyfr Ychydig Is Na’r Angylion ei enwebu ar gyfer rhestr hir Llyfr y Flwyddyn 2007. Achoswyd cryn ymryson gan ei ddrama Iesu! yn 2008, gan iddo bortreadu Iesu fel merch.

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Aled Jones Williams yn Llanwnda ger Caernarfon, yn unig blentyn i ficer y plwyf a'i wraig, R. E. a Megan Williams. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Bontnewydd ac Ysgol Dyffryn Nantlle cyn mynychu Prifysgol Bangor a graddio ym 1977. Aeth ymlaen i Goleg Diwinyddol Mihangel, Llandaf, a Phrifysgol Caerdydd. Fe ordeinwyd i'r Eglwys yng Nghymru ym 1979 gan wasanaethu yng Nghonwy, Llanrug a Machynlleth. Wedi cyfnod yn dioddef o alcoholiaeth gadawodd yr eglwys, daeth yn aelod o gymuned L'Arche yn Lerpwl gan rannu ei fywyd â rhai oedd ag anabledd meddwl. Yn ystod ei gyfnod yno y priododd â Susan. Dychwelodd i Gymru yn 1995 i wasanaethu fel offeiriad ym Mhorthmadog. Mae ganddyn nhw dri o blant: Marc, Bethan a Gwydion.[2] Mae'n byw yng Nghricieth erbyn hyn.[3]

Dramâu golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Tuchan o flaen Duw. Hunangofiant Aled Jones Williams, Gwasg Carreg Gwalch (2012)
  2. 2.0 2.1  Offeiriad yn cipio'r Goron. BBC (2002-08-05).
  3.  Bywgraffiad Aled Jones Williams. Gwasg Gomer.