Actores o Gymro yw Valmai Jones sy'n adnabyddus am ei gwaith gyda Theatr Bara Caws, ac am ymddangos mewn nifer o ddramau ar y sgrîn megis Pengelli, Ista'nbwl a Anturiaethau Jini Mê.

Valmai Jones
GalwedigaethActor, Awdur, Cyfarwyddwr

Bywyd cynnar golygu

Hyfforddwyd yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru ac roedd yn gyfarwyddwr cyswllt yn Theatr Gwynedd, Bangor yn y 90au.

Gyrfa golygu

Mae Valmai wedi bod yn gweithio mewn theatr, teledu a radio am oddeutu 40 mlynedd fel actor, awdur a chyfarwyddwr ar gyfer amrywiaeth fawr o gwmnïau.

Mae Valmai yn aelod gwreiddiol o Theatr Bara Caws.

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm a theledu golygu

Teitl Blwyddyn Rhan Cwmni Cynhyrchu Nodiadau
Un Dau Tri 1971 BBC Cymru
Dinas (1972) 1972 Maureen HTV Cymru
Carrie's War 1974 Lady in Hall
Gwaed ar y Sêr 1975 Marilyn Bwrdd Ffilmiau Cymraeg
Teliffant 1979-1980 Mrs Siop y Gornel BBC Cymru
Mab Diddanwch: Anthropos 1979 BBC Cymru
Bargen 1980 BBC Cymru
Joni Jones 1982 Mrs. Evans Sgrîn '82
Hafod Henri 1985 Beryl BBC Cymru Pennod: Os Daw Fy Nghariad i Yma Heno
The District Nurse 1987 Mary Jones
Hafod Henri 1987 Beryl BBC Cymru Pennod: Rhywdd Gamwr
Yr Heliwr / A Mind to Kill 1991 Newyddiadurwr
Cylch Gwaed 1992 Megan Ffilmiau'r Nant
William Jones 1993 Meri BBC Cymru, S4C, Lluniau Lliw Cyf.
Mewn Gwaed Oer 1993
Anturiaethau Jini Mê Magi Naci
Pengelli 1995-2001 Barbara Morgan Ffilmiau'r Nant 8 Cyfres
Byd Guto Gwningen a'i Gyfeillion 1994-1996 Llais Beatrix Potter, lleisiau amrwyiol (Llais) Sain
Nodi - Anturiaethau Gwlad y Teganau 1997 Tesi Tedi, Beti Bwt, Nel y Ffermwr, Mrs. Tybi, Mrs. Noah, Cath Pinc, Sali Sgitlan (Llais) BBC Worldwide Ltd./Sain 5 pennod o gyfres 3
Into the Dark
Porc Peis Bach 2000-2005 Miss Wyrld Cambrensis
Yr Heliwr / A Mind to Kill 2001 Iris Mitchell
Oed yr Addewid 2001 Ffilm
Tair Stori 2003 Buddug
Treflan 2004 Barbara Bartley Alfresco
Omlet 2008 Iris Boomerang
Ista'nbwl 2008-2010 Joy Rondo 3 Cyfres
Y Gwyll 2013 Enid Roberts Fiction Factory
The Followers 2014 Lyn Ffilm fer
Under Milk Wood 2015 4ydd Cymydog Ffilm
Will 2017 Mam fyddar
Pitching In 2019 Olwen
The Tick & The Bomb 2019 Bronwen Ffilm fer

Cyfeiriadau golygu