Chwys
Hylif naturiol tebyg i ddŵr o ran ei phriodoleddau sy'n gyfansoddedig yn bennaf o sodiwm clorid ac wrea, sy'n cael ei hysgarthu o'r corff trwy'r chwarrenau chwys yw chwys. Mae'n chwarae rhan bwysig yn y gwaith o reoli tymheredd y corff yn ogystal â chael gwared ar amhuryddion. Mae chwysu yn oeri'r corff a dyna pam fod pobl yn chwysu mwy pan fo'r tywydd yn boeth ond yn llai pan fo'r tywydd yn oer. Mae chwysu yn cynyddu hefyd pan fo rhywun yn teimlo'n sâl neu wedi cynhyrfu ei nerfau.
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | ysgarthiad, secretiad, Ysgarthu, endid anatomegol arbennig ![]() |
![]() |
- Gweler hefyd chwys (gwahaniaethu).