Ci Defaid Basgaidd
Ci defaid sy'n tarddu o Wlad y Basg yw'r Ci Defaid Basgaidd (Basgeg: Euskal Artzain Txakurr; Sbaeneg: Pastor Vasco). Hwn yw un o'r bridiau hynaf o gŵn defaid, a fe'i defnyddir i sodli gwartheg, ceffylod, ac ieir yn ogystal â defaid yn ucheldiroedd Gwlad y Basg. Dau amrywiad ar y Ci Defaid Basgaidd sydd: y Gorbeikoa, a chanddo gôt fras o flew ac wedi ei enwi ar ôl mynydd Gorbea, a'r Iletsua ("blewog") a nodweddir gan ei farf. Mae'r ddau fath yn felynllwyd, neu weithiau'n goch yn achos y Gorbeikoa, ac o faint canolig.[1]
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | herding dog |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gellir ei olrhain yn ôl i Oes Newydd y Cerrig yn ôl y rhai sy'n honni bod esgyrn cŵn a ddarganfuwyd yng Ngwlad y Basg yn perthyn i hynafiaid y brîd. Sonir am y Ci Defaid Basgaidd mewn ordinhadau bugeiliol yr Oesoedd Canol, a gwelir darluniau ohono mewn ffresgoau a phaentiadau o'r 16g. Cafodd niferoedd y brîd eu difetha yn niwedd y 19g a decreuad yr 20g, o ganlyniad i ymosodiadau ar breiddiau gan fleiddiaid. Trodd y ffermwyr at warchotgwn yn lle cŵn defaid, gan leihau'r galw am y Ci Defaid Basgaidd. Goroesodd y brîd mewn ambell ardal lle'r oedd y trigolion yn newid eu harferion pori i rwystro'r bleiddiaid.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) "Herding Dogs of Western Europe", Border Collie Museum. Adalwyd ar 8 Chwefror 2019.