Pryd o fwyd traddodiadol i wledydd Prydain yw cinio dydd Sul sydd fel arfer yn cael ei weini ar ddydd Sul ac yn cynnwys cig rhost, tatws rhost, ac ychwanegiadau fel llysiau, grefi, pwdin Efrog a stwffin. Gall hefyd gynnwys llysiau eraill fel panas rhost, pys, moron, ffa, ysgewyll, blodfresych (yn aml gyda chaws) a brocoli. Mae cinio dydd Sul hefyd yn boblogaidd mewn rhannau o Iwerddon, yn arbennig yn Ulster.

Cinio Dydd Sul
Mathsaig tatws Edit this on Wikidata
Yn cynnwysroast beef, potato, Pwdin Efrog, stuffing, Grefi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cinio dydd Sul yn cynnwys cig eidion rhost, tatws rhost, llysiau eraill a phwdin Efrog.

Daeth y cinio dydd Sul yn bryd a oedd yn cael ei fwyta ar ôl gwasanaethau Cristnogol yn y bore. Mae'r arferiad o gael pryd mawr o fwyd yn dilyn gwasanaethau i'w weld mewn diwylliannau Ewropeaidd eraill ac mewn gwledydd Cristnogol o amgylch y byd.