Rhostio
Coginio drwy gyfrwng gwres sych, yn enwedig cig a llysiau mewn ffwrn, yw rhostio.[1] Mae'r dechneg yn debyg iawn i bobi, ac i raddau mater o arfer iaith sy'n gwahaniaethu'r ddau. Dywed ein bod yn rhostio cig, ffowlyn, tatws, ac afalau, er enghraifft.[2]
Y brif wahaniaeth dechnegol rhwng rhostio a phobi yw bod strwythur solet gan fwyd sy'n cael ei rostio, er enghraifft cig a llysiau. Wrth bobi, mae cymysgeddau hylifol neu led-hylifol megis toes a chytew yn dibynnu ar dymheredd y popty i'w hymsolido. Gellir hefyd rhoi caen allanol o fraster neu hylif heb ddŵr ar fwyd sy'n rhostio mewn ffwrn, er enghraifft marinâd, olew, neu doddion cig eidion.[3] Yn ôl rhai, mae angen tymheredd uwch ar rostio (o leiaf tua 200 °C), ond nid yw pawb yn cytuno ar y gwahaniaeth honedig hwn.[4]
Y dull traddodiadol o rostio cig yw ar gigwain yn troi ger tân. Gwneir rhostio modern mewn ffwrn, neu ar dân agored ar y gridyll neu'r barbiciw.[3] Gellir hefyd ei wneud gyda marwydos, tywod neu gerrig poeth.[5]
Os defnyddid hylif megis isgell neu sudd wrth goginio cig mewn llestr caeedig, gelwir y broses yn frwysio neu'n bot-rostio.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ rhostio. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
- ↑ S. Minwel Tibbott. Geirfa'r Gegin (Amgueddfa Werin Cymru, 1983), t. 112.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) "What is the difference between baking and roasting?". Science of Cooking. exploratorium. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
- ↑ (Saesneg) What's the Difference Between Roasting and Baking?. The Kitchn. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.
- ↑ (Saesneg) roasting (cooking). Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 29 Mehefin 2015.