Cirrus
Math o gwmwl yw cirrus neu wallt y forwyn.
Math o gyfrwng | genera cwmwl |
---|---|
Math | cymylau uchel |
Yn cynnwys | cirrus spissatus, cirrus uncinus, cirrus fibratus, cirrus radiatus |
Gwefan | https://cloudatlas.wmo.int/cirrus-ci.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyma gymylau sy'n hawdd iawn eu hadnabod. Maent fel blew hirion yn gorwedd i'r un cyfeiriad â'r gwynt fel arfer, â'u blaenau un ai yn syth neu yn cyrlio ar i fyny. Y rhain yw'r cymylau gweladwy uchaf; yn wahanol i'r cymylau is, grisialau rhew yn hytrach na diferion bychan o ddŵr yw'r rhain.
Enwau eraill
golygu- blew geifr (cyffredin)
- gwallt y forwyn (Gwynedd)
- rhawn y gaseg (Meirionnydd)
- cynffon y gaseg wen (Llanrhaeadr, Dyffryn Clwyd)
- cynffon ceffyl (Llŷn).
Maent yn aml yn arwydd bod ffrynt yn dynesu yn enwedig os bydd y blew yn graddol gynyddu ac yn ymuno gan newid i haen o Cirrocumulus neu 'draeth awyr'. Bryd hynny gall y blew geifr fod yn arwydd da bod ffrynt yn dynesu, pryd y gellir disgwyl i'r glaw gyrraedd o fewn 12 – 18 awr.
- Blew geifr, glaw geir (Gwynedd)
- Gwallt y forwyn – tywydd ansefydlog (Llanllwni, Buellt, Llandyrnog, Meirionnydd)
Os nad yw'r blew geifr yn ymuno â thewychu gallant fod yn gysylltiedig â thywydd braf. Bryd hynny fe'u disgrifir fel:
- Clôs (trowsus)
- Gwyddelod yn y gwynt (Llŷn).
Cyfeiriadau
golygu Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun a sgwennwyd ac a briodolir i Twm Elias ac a uwchlwythwyd ar Wicipedia gan Defnyddiwr:Twm Elias. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyntaf yn Llên Gwerin (Cymdeithas Edward LLwyd).