Mewn geometreg, sy'n rhan o fathemateg, mae'r ciwb yn ffurf solat, rheolaidd tri dimensiwn â chwe arwyneb (neu ochr) sgwâr gyda 3 ohonynt yn cyfarfod ar ongl sgwâr[1][2] i'w gilydd ym mhob fertig (cornel). Y gair ar lafar gwlad amdano'n amal ydy "bocs" neu "flwch".

Ciwb
Delwedd:Plato-6.png, The 11 cubic nets.svg
MathPlatonic solid, hypercube, zonohedron, trigonal trapezohedron, rhombohedron, ciwboid, quadrilateral prism, gwrthrych 3-dimensiwn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ciwb yn troi o rwyd i fod yn hecsahedron rheolaidd

Y ciwb yw'r unig hecsahedron rheolaidd, ac mae'n un o'r pum ffurf Platonig. Mae ganddo, felly, 6 arwyneb, 12 ymyl ac 8 fertig. Mae'r ciwb hefyd yn paralelepiped sgwâr, yn giwboid hafalochrog ac yn rhombohedron-dde. Mae'n brism sgwâr reolaidd mewn tri chyfeiriadaeth (orientations), ac mae hefyd yn trapesohedron trigonol mewn pedwar cyfeiriad.

Mae'n eitha tebyg i'r octahedron yn ei gymesuredd ciwbig neu octahedrol. Y ciwb yw'r unig polyhedron amgrwm sydd â'i wynebau i gyd yn sgwariau.

Tafluniadau orthogonal

golygu

Mae gan y ciwb bedwar tafluniad orthogonal (orthogonal projections) wedi eu canoli ar fertig, ymylon, arwynebau ac yn normal i'w ffurf fertig. Mae'r cyntaf a'r trydydd yn cyfateb i A2 a B2 plân Coxeter.

Tafluniadau orthogonal
Canolir ar Arwyneb Fertig
Planau Coxeter B2
 
A2
 
Cymeruredd
y Tafluniadau
[4] [6]
Edrychiad ar ogwydd    

Gogwydd sfferig

golygu

Gellir cynrychioli'r ciwb hefyd drwy ogwydd sfferig, a'i daflunio ar blân drwy dafluniad stereograffig. Mae'r tafluniad hwn yn fap gydymffurfiol, ac felly'n cadw'r onglau ond nid yr arwynebedd na'r hyd. Taflunir y llinellau syth fel bwa crwm ar y sffêr.

   
Tafluniad orthograffig Tafluniad stereograffig

Cyfesurynnau Cartesaidd

golygu

Ar gyfer ciwb a ganolwyd ar y tarddiad ("the origin"), gyda'i ymylon yn gyfochrog i'r echelin, a chyda hyd yr ymylon i gyd yn 2, yna mae'r cyfesurynnau Cartesaidd yn

(±1, ±1, ±1)

ond mae'r yn cynnwys holl bwyntiau (x0, x1, x2) gyda −1 < xi < 1 am bob i.

Yr hafaliad o fewn R3

golygu

Mewn geometreg dadansoddol, arwyneb ciwb gyda'i ganol yn (x0, y0, z0) a hyd ei ymylon yn 2a yw 'locws' y pwyntiau (x, y, z) fel bod

 

Cyfeiriadau

golygu