Clara Codd

Awdur, ffeminist a swffragét o Ddyfnaint, Lloegr oedd Clara Codd (10 Hydref 1876 - 3 Ebrill 1971) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am iddi dreulio cyfnod mewn carchar ac am iddi dreulio ei hoes yn gweithio dros y Gymdeithas Theosoffyddol (the Theosophical Society).

Clara Codd
Clara Codd, c.1910.square (cropped).jpg
Ganwyd10 Hydref 1876 Edit this on Wikidata
Bishop's Tawton Edit this on Wikidata
Bu farw3 Ebrill 1971 Edit this on Wikidata
Heatherwood Hospital Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethswffragét Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Cymdeithas Theosoffiaidd Edit this on Wikidata

MagwraethGolygu

Fe'i ganed yn "Pill House", Bishop's Tawton ar 10 Hydref 1876 a bu farw yn Heatherwood Hospital. [1][2]

Hi oedd plentyn hynaf Henry Frederick Codd a Clara Virginia (g. Botto) Codd. Roedd ganddi naw brawd a chwiorydd a chafodd ei haddysgu gartref. Yn 15 oed daeth yn anffyddiwr. Ar ôl marwolaeth ei thad, symudodd y teulu i Genefa lle'r oedd Codd yn gweithio fel athro-riant (governess), model gwisgoedd ac athrawes ffidil a phiano. Cafodd ei throi'n Theosoffydd ar ôl clywed Llywydd cyntaf y Gymdeithas Theosoffyddol, Henry Steel Olcott, yn rhoi sgwrs yn Genefa.[3]

Yr ymgyrchyddGolygu

 
Codd yn plannu coeden gydag Annie Kenney a Florence Canning ar 25 Ebrill 1909 yng ngardd "Eagle House"

Yn 1903 symudodd y teulu i Loegr ac ymunodd â'r Gymdeithas Theosoffyddol. Ym 1907 ymunodd ag Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched, mudiad eithas milwriaethus (Women's Social and Political Union yn yr iaith frodorol).[4][5]

Gofynnodd Aeta Lamb iddi helpu i drefnu ymweliad gan Christabel Pankhurst ac Annie Kenney a'r flwyddyn ganlynol fe'i hetholwyd yn ysgrifennydd etholedig cangen WSPU Caerfaddon. Gerllaw roedd cartref Mary Blathwayt, swffragét arall. Roedd ei rhieni'n byw yn "Eagle House" yn Batheaston. Ymwelodd bron pob un o'r swffragetiaid Prydeinig blaenllaw â'r tŷ a byddai Codd yn aros yno, ac yn cysgu gydag Annie Kenney.[3][5]

Arestiwyd Codd ym 1908 y tu allan i Dŷ'r Cyffredin ac fe'i dedfrydwyd i fis o garchar. Roedd Christabel Pankhurst yn awyddus i ddod o hyd i swydd iddi, ond gwrthododd Codd y cynnig. Mae'n ymddangos iddi ddieithrio o'r grŵp ar ôl hynny.

AnrhydeddauGolygu


CyfeiriadauGolygu

  1. Dyddiad geni: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
  2. Dyddiad marw: Lua error in Modiwl:Cite_Q at line 371: attempt to call upvalue 'getPropOfProp' (a nil value).
  3. 3.0 3.1 Heloise Brown, "Codd, Clara Margaret (1876–1971)", Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; arlein, Medi 2015 accessed 30 Hydref 2017
  4. Kreeger, Leatrice (May–June 2004). "A Tribute to Clara Codd". Quest magazine. https://www.theosophical.org/publications/42-publications/quest-magazine/1463-a-tribute-to-clara-codd. Adalwyd 2019-04-12.
  5. 5.0 5.1 "Clara Codd". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 31 Hydref 2017.