Annie Kenney
Ffeminist a swffragét o Loegr oedd Ann "Annie" Kenney (13 Medi 1879 - 9 Gorffennaf 1953) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel ymgyrchydd dros bleidlais i ferched; roedd yn ffigwr blaenllaw yn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (the Women's Social and Political Union). Cyd-sefydlodd ei changen gyntaf yn Llundain gyda Minnie Baldock.[1]
Annie Kenney | |
---|---|
Ganwyd | 13 Medi 1879 Springhead |
Bu farw | 9 Gorffennaf 1953 Hitchin |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, swffragét, ymgyrchydd dros hawliau merched |
Priod | James Taylor |
Plant | Warwick Kenney-Taylor |
Gwobr/au | Medal y Swffragét |
Fe'i ganed yn Springhead, Manceinion Fwyaf ar 13 Medi 1879 a bu farw yn Hitchin, Letchworth Garden City, tref yn Swydd Hertford yn 73 oed.[2][3][4][5][6]
Denodd Kenney sylw'r wasg a'r cyhoedd yn 1905 pan gafodd hi a Christabel Pankhurst eu carcharu am sawl diwrnod am ymosod a rhwystro, ar ôl tarfu ar y gwleidydd Syr Edward Gray drwy weiddi mewn rali Rhyddfrydol ym Manceinion ar fater pleidleisiau i fenywod, sef 'etholfraint'. Credir fod y digwyddiad hwn yn garreg filltir bwysig, ac yn gam pendant ymlaen yn y frwydr dros y bleidlais a hawliau eraill i fenywod yng ngwledydd prydain. Ymhlith cyfeillion eraill Annie roedd Emmeline Pethick-Lawrence, y Farwnes Pethick-Lawrence, Mary Blathwayt, Clara Codd, ac Adela Pankhurst.
Magwraeth
golyguDaeth o ardal dosbarth gweithiol Manceinion Fwyaf, yn bedwerydd merch allan o 12 o blant i Horatio Nelson Kenney (1849–1912) ac Anne Wood (1852-1905). Roedd ei saith chwaer yn cynnwys Nell (Sarah), Jessie, Jennie, Alice a Kitty. Dechreuodd Annie weithio'n rhan-amser mewn melin gotwm pan oedd yn 10 oed, yn ogystal â mynd i'r ysgol; roedd yn gweithio'n llawn amser yn 13 oed, gwaith undonog a oedd yn cynnwys sifftiau 12 awr o chwech yn y bore. Roedd yn cael ei chyflogi fel cynorthwy-ydd gwehydd, neu “gweinyddwr”; rhan o'i swydd oedd gosod y "bobbins" a rhoi sylw i linynnau cnu wrth iddynt dorri; rhwygwyd un o'i bysedd gan fobin wrth iddo droi'n wyllt. Arhosodd yn y felin am 15 mlynedd, bu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur, gan hyrwyddo hunan-astudio a cheisiai hyrwyddo llenyddiaeth ymhlith ei chydweithwyr. Mynychai'r eglwys yn rheolaidd.[7][8][9] [10]
Ymgyrchu
golyguCymerodd Kenney ran weithredol, filwriaethus o fewn Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Menywod (WSPU) ar ôl iddi hi a'i chwaer Jessie glywed Teresa Billington-Greig a Christabel Pankhurst yn siarad yn y Clarion Vocal Club yn Oldham yn 1905.[9][11]
Yn ystod rali ryddfrydol yn y Free Trade Hall, Manceinion, yn Hydref 1905, torrodd Kenney a Christabel Pankhurst ar draws cyfarfod gwleidyddol a fynychwyd gan Winston Churchill a Syr Edward Grey, gan weiddi: "A fydd y llywodraeth Ryddfrydol yn rhoi pleidleisiau i fenywod?" Ar ôl dadorchuddio baner yn datgan "Pleidleisiau i Fenywod" a gweiddi, cawsant eu taflu allan o'r cyfarfod a'u harestio am achosi rhwystr. Cymerwyd Pankhurst i'r ddalfa am 'ymosodiad technegol' *technical assault) ar swyddog o'r heddlu, ar ôl iddi boeri arno wrth iddo geisio ei harestio (er ei bod wedi ysgrifennu'n ddiweddarach fod ei cheg yn sych grimp).[12] Fe'i carcharwyd gan y llys am dridiau, a thros y blynyddoedd, fe'i carcharwyd 13 o weithiau.
Ysgrifennodd Emmeline Pankhurst yn ei bywgraffiad: "this was the beginning of a campaign the like of which was never known in England, or for that matter in any other country ... we interrupted a great many meetings ... and we were violently thrown out and insulted. Often we were painfully bruised and hurt."
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal y Swffragét .
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Jackson, Sarah (12 Hydref 2015). "The suffragettes weren't just white, middle-class women throwing stones". The Guardian. Cyrchwyd 22 Chwefror 2018.
- ↑ Cyffredinol: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Rhyw: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ Dyddiad geni: "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Annie Kenney". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Oxford Dictionary of National Biography. dyddiad cyrchiad: 14 Ebrill 2021.
- ↑ Helen Rappaport. Encyclopedia of women social reformers, Cyfrol 1 (ABC-CLIO, 2001) tud. 359-361
- ↑ E. S. Pankhurst. The suffragette: the history of the women's militant suffrage movement, 1905–1910 (New York Sturgis & Walton Company, 1911) tud. 19ff.
- ↑ 9.0 9.1 Annie Kenney, Marie M. Roberts, Tamae Mizuta. A Militant (Routledge, 1994) Rhagarweiniad.
- ↑ Galwedigaeth: Oxford Dictionary of National Biography.
- ↑ "Jessie Kenney". Spartacus Educational (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-10-26.
- ↑ Crawford, Elizabeth (2003) [1999]. The Women's Suffrage Movement: A Reference Guide 1866–1928. Routledge. t. 489.CS1 maint: ref=harv (link)