Seiclwr proffesiynol Cymreig o Gaerdydd ydy Clare Greenwood (ganwyd 1958-1962). Mae wedi cynyrchioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad sawl gwaith: Pursuit a Ras Ffordd 1990, Ras Bwyntiau, Pursuit a Ras Ffordd 1994 a Ras Ffordd yn 1998. Mae Clare wedi cael un o'r gyrfaoedd rhyngwladol hiraf yn seiclo, bu'n cystadlu yn Tours yr Almaen, Eidal, Sbaen, Norwy, Siapan, Unol Daleithiau, Canada, dwyrain Ewrop a sawl Tour o Ffrainc gan gynnwys y Grande Boucle Féminine rhwng 1984 a 1989 (gan orffen yn 7fed safle unwaith), a Tour de EEC rhwng 1989 ac 1994. Dros y blynyddoedd mae wedi dal pob record Treial Amser Cymraeg ac (hyd 2002 oleiaf) mae'n dal i ddal record ar gyfer 10 a 100 milltir. Yn 2001, hi oedd Pencampwr Meistr y Byd, Treial Amser a Pencampwr Meistr y Byd, Rasio Ffordd yn 2002.

Clare Greenwood
Gwybodaeth bersonol
Enw llawnClare Greenwood
Dyddiad geni1958-1962
Manylion timau
DisgyblaethFfordd a Trac
RôlReidiwr
Tîm(au) Amatur
Tîm(au) Proffesiynol
1996
1999–2003?
2005-
Team CJ
MI Racing
Bush Healthcare
Prif gampau
Pencampwr y Byd x2
Golygwyd ddiwethaf ar
22 Medi, 2007

Canlyniadau

golygu
1996
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 24.538 milltir yr awr
1997
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 23.965 mya
1999
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 24.756 mya
2000
1af BAR (Best All Rounder) Treialon Amser Merched, Cymru. Cyfartaledd o 24.376 mya
2001
1af   Pencampwriaethau Meistr y Byd, Treial Amser
2002
1af   Pencampwriaethau Meistr y Byd, Ras Ffordd
2007
3ydd Pencampwriaethau Meistr y Byd, Treial Amser
4ydd Pencampwriaethau Meistr y Byd, Ras Ffordd

Cyfeiriadau

golygu


   Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.