Pierre-Auguste Renoir

(Ailgyfeiriad o Renoir)

Arlunydd o Ffrainc oedd Pierre-Auguste Renoir (25 Chwefror 18413 Rhagfyr 1919). Bu'n un o brif arlunwyr y grŵp Argraffiadol (Ffrangeg: Impressionnisme). Datblygodd dechneg o waith brwsh toredig, manwl gyda chyfuniad o liwiau a oedd yn cydweddu er mwyn dal symudiad a golau. Yn dilyn ei ymweliad â'r Eidal ym 1881 newidiodd ei steil i fod yn fwy clasurol.

Pierre-Auguste Renoir
GanwydPierre Auguste Renoir Edit this on Wikidata
25 Chwefror 1841 Edit this on Wikidata
Limoges Edit this on Wikidata
Bu farw3 Rhagfyr 1919, 17 Rhagfyr 1919 Edit this on Wikidata
Cagnes-sur-Mer Edit this on Wikidata
Man preswylLimoges, Paris, Cagnes-sur-Mer Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • École nationale supérieure des Beaux-Arts
  • Académie Suisse Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd, cerflunydd, darlunydd, gwneuthurwr printiau, drafftsmon, drafftsmon, arlunydd graffig, porcelain painter Edit this on Wikidata
Adnabyddus amYoung Girls in Black, Two Sisters, La loge, Luncheon of the Boating Party, La Grenouillère Edit this on Wikidata
Arddullportread (paentiad), noethlun, paentiad mytholegol, celf tirlun, animal art, figure, celf genre, celf y môr, portread, celfyddyd grefyddol, bywyd llonydd Edit this on Wikidata
MudiadArgraffiadaeth Edit this on Wikidata
PriodAline Renoir Edit this on Wikidata
PartnerLise Tréhot, Frédérique Vallet-Bisson Edit this on Wikidata
PlantPierre Renoir, Jean Renoir, Claude Renoir, Lucienne Bisson, Jeanne Tréhot Edit this on Wikidata
Gwobr/auChevalier de la Légion d'Honneur, Officier de la Légion d'honneur, Commandeur de la Légion d'honneur‎ Edit this on Wikidata
llofnod
Pierre-Auguste Renoir, La Parisienne, 1874. Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd

Priododd, ym 1890, â Aline Victorine Charigot, model yn y paentiad Le Déjeuner des canotiers.

Bu'n dad i'r actor Pierre Renoir (1885–1952), y cyfarwyddwr ffilm Jean Renoir (1894–1979) a'r crochenydd Claude Renoir (1901–69). Yn daid i'r gweithiwr ffilm Claude Renoir (1913–1993), mab Pierre.

Bywyd a Gwaith

golygu
 
Pierre-Auguste Renoir, ca.1910

Cafodd ei eni yn Limoges, Haute-Vienne, Ffrainc i deulu tlawd. Dechreuodd weithio fel peintiwr ar borslen. Symudodd i Baris, gan ymuno â stiwdio'r arlunydd ffasiynol Charles Gleyre tua 1861-2. Ym Mharis cyfarfu â Claude Monet ac ym 1869 dechreuodd y ddau weithio gyda'i gilydd yn sgetsio wrth Afon Seine.

Bu'n anhapus gyda'r system swyddogol Salon a oedd yn araf i arddangos gwaith newydd a mentrus. Ym 1873 bu Renoir ymhlith y grŵp o artist, yn cynnwys Claude Monet, Camille Pissarro, Paul Cézanne, a ffurfiodd y Société Anonyme Coopérative des Artistes Peintres 6 o gynfasau mewn arddangosfa'r Société Anonyme a ddaeth yn enwog yn ddiweddarach fel yr arddangosfa Impressionniste (Argraffiadol) gyntaf.

Yn ystod y 1880au teithiodd Renoir dramor, yn ymweld â'r Eidal, Yr Iseldiroedd, Sbaen, Lloegr, Yr Almaen ac Algeria. Bu'n edmygwr mawr o Raffael, Diego Velázquez, a Peter Paul Rubens, a bu'n ddylanwad ar ei waith.[1]

Ar ddiwedd ei oes, dioddefodd arthritis a bu rhaid clymu ei frwsh i'w law er mwyn iddo ei ddal.[2]

Ym 1919, blwyddyn olaf ei fywyd, prynodd oriel fwyaf Paris y Louvre un o'i luniau, anrhydedd mawr iddo ac yn arwydd o'r sefydliad celf yn derbyn gwaith Impressionniste o'r diwedd.[3]

Mae dau o ddarluniau Renoir wedi'u gwerthu am fwy na $70 miliwn dolar. Gwerthwyd Bal au moulin de la Galette am $78.1 miliwn ym 1990, un o'r darluniau drytach y byd ar y pryd.

Yn 2012, cafodd un o gynfasau Renoir Paysage bord du Seine ei rhoi ar werth mewn ocsiwn ond ddarganfuwyd a gafodd ei ddwyn o Oriel Gelf Baltimore ym 1951 a fe'i dynnwyd yn ôl o'r farchnad.

Hunan Bortreadau

golygu

Cyfeiriadau

golygu