Clegyr Fwya

(Ailgyfeiriad o Clegyr Boia)

Bryn isel a safle archaeolegol yw Clegyr Fwya (amrywiadau: Clegyrfwya, Clegyr Boia) a leolir ger arfordir Sir Benfro i'r gorllewin o Dyddewi. Mae 'Bwya' yn amrywiad ar yr enw personol 'Boia' ac yn cysylltu'r safle â'r traddodiad am y pennaeth lleol a wrthwynebodd Dewi Sant yn y 6g. Ystyr 'clegyr' yw "craig" neu "garreg" ayyb.

Clegyr Fwya
Mathsafle archaeolegol, caer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Benfro Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.8785°N 5.2885°W Edit this on Wikidata
Cod OSSM73732509 Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwPE109 Edit this on Wikidata
Pen dwyreiniol Clegyr Fwya

Archaeoleg golygu

Mae Clegyr Fwya yn safle o bwys i archaeolegwyr oherwydd y dystiolaeth a ddarganfuwyd yno am Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru. Yn y cyfnod hwnnw roedd tylwyth o ffermwyr gwartheg yn byw yno. Cafwyd olion tŷ hirsgwar sylweddol a nifer o ddarnau o grochenwaith neolithig - un o'r canfyddiadau pwysicaf yng Nghymru - sy'n awgrymu cysylltiad ag Iwerddon yn y 3ydd fileniwm CC. Cafwyd bwyeill carreg gorffenedig hefyd, efallai o fryniau Preseli i'r gogledd.[1]

Yn ddiweddarach, yn Oes yr Haearn, codwyd cloddiau rhwng y creigiau i greu amddiffynfa yn amgau 85 wrth 30 m o dir. Nid yw'n cyfrif fel bryngaer ond yn fferm deuluol gydag amddiffynwaith.

Boia golygu

Prif: Boia

Mae'r enw yn cysylltu'r safle â Boia, pennaeth o dras Gwyddelig y ceir ei hanes ym Muchedd Dewi, testun canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Ar ddechrau'r adran amdano mae Boia yn eistedd ar graig uchel ger Tyddewi; Clegyr Fwya, efallai. Mae'r stori sy'n dilyn yn un liwgar, yn enwedig y portread o lawforwynion gwraig ddichellgar Boia yn dawnsio'n noethlymun i demtio Dewi a'i ddisgyblion - ond does dim modd profi cysylltiad hanesyddol â'r safle.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Christopher Houlder, Wales: An Archaeological Guide (Faber, 1978), tud. 186.
  2. D. Simon Evans (gol.), Buched Dewi (Caerdydd, 1959), tt. 6-9.

Dolenni allanol golygu

  • (Saesneg) Clegyr Fwya ar wefan 'Pembrokeshire Virtual Museum'