Boia
Pennaeth o dras Wyddelig yn Nyfed oedd Boia, yn ôl traddodiad, y ceir ei hanes ym Muchedd Dewi, testun canoloesol sy'n honni adrodd hanes bywyd Dewi Sant. Yn ogystal â Buchedd Dewi cyfeirir ato gan Gerallt Gymro. Cyfeirir ato ym Muchedd Teilo ('Hanes Teilo') hefyd, ond heb ei enwi; un o'r Ffichtiaid ydyw yno.[1] Os gwir y chwedl buasai Boia yn byw yn y 6g.
Yr enw
golyguCeir sawl enghraifft o'r enw personol 'Boia' (neu enwau tebyg; mae 'Bwya' yn amrywiad yn y Gymraeg, er enghraifft). Ceir enghraifft mewn testun o Gernyw sy'n dyddio i'r 10g a cheir un 'Boius' (Gwyddel mae'n debyg) yn ddisygbl i Sant Paul o Leon yng Ngâl. Cymharer hefyd enw'r llwyth Celtaidd y Boii.[2]
Chwedl a hanes
golyguAr ddechrau'r adran amdano yn y Fuchedd mae Boia yn eistedd ar graig uchel ger Tyddewi (Clegyr Fwya, efallai: gweler isod). Mae'r stori sy'n dilyn yn un liwgar. Yn fersiwn Ladin y Fuchedd, sy'n llawnach na'r un Gymraeg, dywedir mai derwydd yw Boia. Mae'n gwrthwynebu Dewi Sant yn ei fwriad i sefydlu clas yng Nglyn Rhosyn (Tyddewi). Mae gwraig ddichellgar Boia yn ei berswadio i erlid Dewi ond mae'r sant yn ei orchyfygu trwy wneud ef a'i ryfelwyr yn ddiymadferth. Pan ddychwelant adref mae'r anifeiliaid i gyd yn farw fel cosb ond mae Dewi yn eu hadfer ar ôl i Foia ymbil arno a rhoi tir Glyn Rhosyn iddo yn dragwyddol. Wedyn mae gwraig Boia yn anfon ei llawforwynion i ddawnsio'n noethlymun o flaen Dewi a'i ddisgyblion i'w temtio ond mae'r sant yn gweddïo trwy'r dydd a'r nos ac mewn canlyniad yn osgoi syrthio i demtasiwn. Ar ddiwedd y chwedl mae Boia yn torri ei lw ac yn bwriadu ymosod ar Ddewi ond yn y nos daw ei elynion a thorri ei ben yn ei gwsg.[3]
Clegyr Fwya
golygu- Prif: Clegyr Fwya
Mae'n debyg fod cof am Boia yn yr enw lle Clegyr Fwya (amrywiad: Clegyr Boia), bryn isel a safle archaeolegol a leolir ger arfordir Sir Benfro i'r gorllewin o Dyddewi. Ystyr 'clegyr' yw 'craig' neu 'garreg' ayyb. Yn Oes Newydd y Cerrig yng Nghymru roedd tylwyth o ffermwyr gwartheg yn byw yno. Cafwyd olion tŷ hirsgwar sylweddol a nifer o ddarnau o grochenwaith neolithig - un o'r canfyddiadau pwysicaf yng Nghymru - sy'n awgrymu cysylltiad ag Iwerddon yn y 3ydd fileniwm CC. Yn ddiweddarach, yn Oes yr Haearn, codwyd cloddiau rhwng y creigiau i greu amddiffynfa.[4]