Pêl-droediwr a fu'n chwarae pêl-droed i dimau Cymru, Abertawe a Tottenham Hotspur yw Clifford William Jones (g. 7 Chwefror 1935). Enillodd Jones 59 cap dros ei wlad ac roedd yn allweddol yn nhîm Abertawe a Spurs (1960–61), yn ei ddydd, pan enillodd Spurs ddwywaith. Yr adeg honno, ystyriwyd Jones y chwaraewr asgell chwith gorau yn y byd.

Cliff Jones

Arwr Spurs, Abertawe a Chymru: Cliff Jones
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnClifford William Jones
Dyddiad geni (1935-02-07) 7 Chwefror 1935 (89 oed)
Man geniAbertawe, Cymru
Taldra1.70m
SafleAsgellwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1952–1958C.P.D. Dinas Abertawe168(47)
1958–1968Tottenham Hotspur318(135)
1968–1970Fulham25(2)
1970–1971King's Lynn
Tîm Cenedlaethol
1954–1969Cymru59(16)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Gyrfa golygu

Ganwyd Cliff Jones yn Abertawe ac i'w dref enedigol y chwaraeodd pêl-droed proffesiynol am y tro cyntaf, a hynny yn 1952, gan ymddangos 25 gwaith i'r clwb cyn cael ei alw i chwarae dros ei wlad.

Roedd yn rhan allweddol o dîm cenedlaethol Cymru pan roesant grasfa iawn (2–1) i'r Sais ym Mharc Ninian ar 22 Hydref 1955 a dywedodd droeon y credai mai'r gôl a gariodd y dydd oedd yr orau a sgoriodd erioed.[1]

Spurs golygu

Fe'i prynwyd gan Spurs yn Chwefror 1958 am £35,000.[2][3] Chwaraeodd mewn dwy ffeinal bwysig: Cwpan FA 1962, pan enillodd Spurs a Chwpan Ewrop yn 1963.[4]

Dywedir i Juventus gynnig Spurs £100,000 amdano, ond gwrthodwyd y cynnig gan Reolwr Spurs, Bill Nicholson, gan ddweud "ei fod yn werth mwy nag arian!".[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Truegreats.com Archifwyd 2006-05-03 yn y Peiriant Wayback. Nodyn:Wayback
  2. 2.0 2.1 Soccer Who's Who compiled by Maurice Golesworthy The Sportsmans Book Club London 1965
  3. "Great Players: Cliff Jones". History of the Club. Tottenham Hotspur. Cyrchwyd 16 February 2013.
  4. "TOTTENHAM HOTSPUR CUP FINAL TEAMS 1901 to 2009". My Football Facts. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-16. Cyrchwyd 19 Chwefror 2013.

Gweler hefyd golygu