Cliff Jones (pêl-droediwr)

Cyn-chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Clifford William Jones (ganwyd 7 Chwefror 1935) a chwaraeodd dros Dhîm Cenedlaethol Cymru 59 o weithiau. Chwaraeodd hefyd i Abertawe a Tottenham Hotspur pan enillodd y tîm yn 1960–61. Ar y pryd ystyriwyd ef yr asgellwr gorau'n y byd.[1]

Cliff Jones

Cliff Jones
Gwybodaeth Bersonol
Enw llawnClifford William Jones
Dyddiad geni (1935-02-07) 7 Chwefror 1935 (89 oed)
Man geniAbertawe, Cymru
Taldra5 tr 7 mod
SafleAsgellwr
Gyrfa Lawn*
BlwyddynTîmYmdd(Gôl)
1952–1958Abertawe168(47)
1958–1968Tottenham Hotspur318(135)
1968–1970Fulham25(2)
1970–1971King's Lynn
Tîm Cenedlaethol
1954–1969Cymru59(16)
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd..
† Ymddangosiadau (Goliau).

Fe'i ganwyd yn Abertawe ac i'r ddinas honno y chwaraeodd gyntaf, ar 25 achlysur a sgoriodd 16 o goliau. Roedd Clifford yn rhan o'r tîm hwnnw a gurodd Lloegr 2-1 ym Mharc Ninian ar 22 Hydref 1955, ac ef sgoriodd yr ail gôl i Gymru - ei gôl orau erioed, meddai ef.[2]

Dywedir fod Juventus wedi cynnig Spurs £100,000 am Clifford, ond gwrthododd Bill Nicholson, Rheolwr Tottenham y cynnig gan ddweud ei fod "yn werth mwy nag arian". Roedd Bill Nicholson wedi talu £35,000 amdano.

Cyfeiriadau golygu

  1. Soccer Who's Who compiled by Maurice Golesworthy The Sportsmans Book Club London 1965
  2. Gutenberg


  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.