Clive Swift

cyfansoddwr a aned yn 1936

Actor a chyfansoddwr caneuon o Sais oedd Clive Walter Swift (9 Chwefror 19361 Chwefror 2019). Roedd yn adnabyddus am ei rôl fel Richard Bucket, gŵr amyneddgar Hyacinth (a chwaraewyd gan Patricia Routledge) yn y gyfres deledu Prydeinig Keeping Up Appearances, ond chwaraeodd lawer o rannau ffilm-a-theledu nodedig eraill, gan gynnwys Roy yn y gyfres deledu The Old Guys.

Clive Swift
Ganwyd9 Chwefror 1936 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw1 Chwefror 2019 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor ffilm, cyfansoddwr, actor teledu Edit this on Wikidata
PriodMargaret Drabble Edit this on Wikidata
PlantAdam Swift, Joe Swift Edit this on Wikidata

Bywyd a gyrfa golygu

Ganwyd Swift yn Lerpwl, yn fab i Lily Rebecca (née Greenman) ac Abram Sampson Swift.[1] Roedd ei frawd hynaf, David, hefyd yn actor. Cafodd y ddau eu haddysgu yng Ngholeg Clifton a Choleg Gonville a Caius, Caergrawnt, lle astudiodd lenyddiaeth Saesneg. Bu'n athro yn LAMDA a'r Royal Academi of Dramatic Art. Roedd ei deulu yn Iddewig.[2]

Ymddangosodd fel Snug yng nghynhyrchiad ffilm Cwmni Shakespeare Frenhinol o A Midsummer Night's Dream yn 1968 fel rhan o cast a oedd yn cynnwys Diana Rigg, Helen Mirren ac Ian Richardson. Yn y 1970au, ymddangosodd fel Doctor Black mewn dwy o addasiadau'r BBC o storiau M.R. James, sef The Stalls of Barchester ac A Warning to the Curious. Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl ar Keeping Up Appearances fel Richard Bucket, gŵr amyneddgar Hyacinth. Serenodd Swift yn addasiad y BBC o The Barchester Chronicles ac ymddangosodd yn stori Doctor Who, Revelation of the Daleks. Ar 25 Rhagfyr 2007, ymddangosodd yn rhifyn arbennig Nadolig Doctor Who fel Mr Copper. Bu hefyd yn chwarae Sir Ector, tad mabwysiadol Brenin Arthur yn y ffilm Excalibur gan John Boorman yn 1981.

Yn ogystal ag actio, roedd yn gyfansoddwr caneuon. Ymddangosodd llawer o'i ganeuon yn ei sioe, Richard Bucket Overflows: An Audience with Clive Swift, a deithiodd wledydd Prydain yn 2007 a Clive Swift Entertains, lle berfformiodd ei gerddoriaeth a'i geiriau ei hun, a deithiodd wledydd Prydain yn 2009. Bu hefyd yn chwarae rhan y Parchedig Eustacius Brewer yn Born a Bred, a ddarlledwyd ar BBC 1 o 2002 i 2005.[3]

Bywyd personol a marwolaeth golygu

Roedd Swift yn briod â'r nofelydd Margaret Drabble o 1960 hyd eu ysgariad ym 1975.[4] Roedd yn dad i un ferch, Rebecca (a fu farw ym mis Ebrill 2017), a oedd yn adnabyddus am redeg The Literary Consultancy in London, a dau fab, Adam Swift, academydd, a Joe Swift, dylunydd gardd, newyddiadurwr a chyflwynydd teledu.[5]

Bu farw Swift ar 1 Chwefror 2019, yn ei gartref yn 82 oed.[6] Treuliodd ei ddyddiau olaf gyda'i deulu[7] yn dilyn arhosiad byr yn Ysbyty St Mary's, Llundain lle cafodd ei drin am salwch byr.

Ffilmyddiaeth golygu

Ffilm golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1965 Catch Us If You Can[8] Duffie
1968 A Midsummer Night's Dream[9] Snug
1972 Frenzy[10] Johnny Porter
1972 Death Line[11] Inspector Richardson
1973 The National Health[12] Ash
1973 Man at the Top[13] Massey
1978 The Sailor's Return[14] Reverend Pottock
1981 Excalibur[15] Ector
1984 Memed My Hawk[16] Magistrate
1984 A Passage to India[3] Major Callendar
1988 Young Toscanini[17] Comparsa Heb gydnabyddiaeth
1997 Gaston's War[18] General James
2004 Othello[19]

Teledu golygu

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
1971 The Stalls of Barchester[20] Dr. Black
1972 The Liver Birds[21] Jim Royle 1 pennod
1972 Dead of Night[22] Dan
1972 A Warning to the Curious[23] Dr. Black
1976 Romeo and Juliet[3] Friar Lawrence
1978 Bless Me, Father[24] Fred Dobie 1 pennod: "Father and Mother"
1979 Henry IV, Part 1[25] Thomas Percy, Earl of Worcester
1981 Winston Churchill: The Wilderness Years[26] Sir Horace Wilson
1982 Tales of the Unexpected[3] Latham 1 pennod: S5, E5 ""Stranger in Town"
1982 The Barchester Chronicles Bishop Proudie
1985 The Pickwick Papers[27] Tracy Tupman
1985 Doctor Who Professor Jobel Revelation of the Daleks[27]
1986 First Among Equals Alec Pimkin
1987 Inspector Morse[27] Doctor Bartlett
1987 Pack of Lies Ellis
1990–1995 Keeping Up Appearances[27] Richard Bucket Prif rham
1993 Heartbeat Victor Kellerman
1994 Woof![angen ffynhonnell] Alex Pardoe
1997 The Famous Five[27] Mr. Pottersham Five Have a Wonderful Time
1998 Peak Practice Norman Shorthose
1999 Aristocrats King George II
2002–2005 Born and Bred[27] Reverend Eustacius Brewer
2007 Doctor Who Mr. Copper "Voyage of the Damned"
2009–2010 The Old Guys[3][27] Roy
2011 Hustle Yusef
2014 Cuckoo[3] Dr. Rafferty 1 pennod
2017 Midsomer Murders[28] Felix Hope (ymddangosiad olaf)

Radio golygu

  • Oblomov fel y Doctor
  • The Right Time
  • From Fact to Fiction – The Orchard fel yr Adrodddwr
  • Measure for Measure fel Escalus
  • Jorrocks's Jaunts and Jollities fel Nash
  • The Price of Fear – Remains to be Seen fel Fred Treiber

Llwyfan golygu

  • Cymbeline (1962) fel Cloten
  • The Physicists (1963) fel Inspector Richard Voss (Aldwych Theatre)
  • The Tempest (1966) fel Caliban (Prospect Theatre Company)[29]

Arall golygu

  • Fel Cyril (brawd yng nghyfraith Beatie yn Awstralia) mewn hysbyseb teledu ar gyfer British Telecom (1989) [30]

Cyfeiriadau golygu

  1. Proffil Clive Swift , filmreference.com; Cyrchwyd 12 Hydref 2016.
  2. Margaret Drabble (20 Ebrill 2010). "Art Thou Contented, Jew?". Cyrchwyd 30 Gorffennaf 2014.
  3. 3.0 3.1 3.2 3.3 3.4 3.5 Barker, Dennis (1 Chwefror 2019). "Clive Swift obituary". Cyrchwyd 1 Chwefror 2019.
  4. Sadler, Lynn Veach (1986). Margaret Drabble. Twayne Publishers. ISBN 978-0-8057-6907-4. Cyrchwyd 2013-07-27.
  5. Silgardo, Melanie (25 Ebrill 2017). "Rebecca Swift obituary". The Guardian. Cyrchwyd 7 Mai 2017.
  6. "Clive Swift Obituary". The Guardian. 1 Chwefror 2019.
  7. "Keeping Up Appearances actor Clive Swift dies aged 82". The Independent. 1 Chwefror 2019. Cyrchwyd 1 Chwefror 2019.
  8. "Having a Wild Weekend (1965) - John Boorman - Cast and Crew". AllMovie. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  9. "Midsummer Night's Dream, A · British Universities Film & Video Council". bufvc.ac.uk. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  10. "Frenzy (1972) - Alfred Hitchcock - Cast and Crew". AllMovie. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  11. "Raw Meat (1973) - Gary Sherman - Cast and Crew". AllMovie. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  12. Guide, British Comedy (1 Chwefror 2019). "Actor Clive Swift dies aged 82". British Comedy Guide. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  13. "Man at the Top (1973)". BFI. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  14. "BFI Screenonline: Sailor's Return, The (1978)". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  15. "BFI Screenonline: Excalibur (1981) Credits". www.screenonline.org.uk. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  16. "Memed My Hawk (1984)". BFI. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  17. "Young Toscanini (1988)". Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  18. "GASTON'S WAR (1997)". BFI. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  19. "Othello". worldcat.org/. 2 Chwefror 2019. Cyrchwyd 2 Chwefror 2019.
  20. "The Stalls of Barchester". British Film Institute Database. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-01. Cyrchwyd 2010-08-22.
  21. https://www.theguardian.com/tv-and-radio/2019/feb/01/clive-swift-keeping-up-appearances-actor-dies-aged-82
  22. http://www.screenonline.org.uk/tv/id/1155743/index.html
  23. https://www.bfi.org.uk/news-opinion/news-bfi/features/warning-curious-locations-ghost-story-for-christmas
  24. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-09-24. Cyrchwyd 2019-02-02.
  25. http://bufvc.ac.uk/dvdfind/index.php/title/9496
  26. http://www.britishdrama.org.uk/churchill.html
  27. 27.0 27.1 27.2 27.3 27.4 27.5 27.6 "Clive Swift - TV Guide". TVGuide.com. Cyrchwyd 1 Chwefror 2019.
  28. "Crime and Punishment – Guest Cast | TVmaze". www.tvmaze.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2017-04-08.
  29. "Clive Swift Biography (1936-)". www.filmreference.com. Cyrchwyd 1 Chwefror 2019.
  30. Lipman, Maureen; Phillips, Richard (1989). You Got an Ology?.

Dolenni allanol golygu