Cloch Rhyddid Philadelphia

Mae'r Gloch Rhyddid yn Philadelphia, Pennsylvania yn un o symbolau amlycaf Rhyfel Annibyniaeth America. Mae'n symbol cyfarwydd yn yr Unol Daleithiau ac mae'r gloch wedi cael ei disgrifio fel eicon o ryddid a chyfiawnder.

Cloch Rhyddid Philadelphia

Yn draddodiadol, digwyddodd caniad enwocaf y gloch ar yr 8fed o Orffennaf, 1776 er mwyn galw trigolion Philadelphia ymghyd i ddarllen y Datganiad o Annibyniaeth. Mae haneswyr y dyddiau hyn yn amau'r honiad hwn am fod y clochdy lle crogai'r gloch wedi dirywio'n sylweddol yn ystod y cyfnod hwnnw. Canwyd y gloch hefyd ym 1774 er mwyn cyhoeddi agoriad y Gynghrair Tramor Cyntaf ac ar ôl brwydrau Lexington a Concord ym 1775.

Galwyd y Gloch Rhyddid yn "Y Gloch Annibyniaeth" neu "Gloch yr Hen Ianci" tan 1837, pan gafodd ei fabwysiadu gan y Gymdeithas Americanaidd yn Erbyn Caethwasiaeth fel symbol ar gyfer mudiad y diddymwyr.