Eirlys

genws o blanhigion
(Ailgyfeiriad o Cloch maban)
Eirlys
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Monocotau
Urdd: Asparagales
Teulu: Amaryllidaceae
Genws: Galanthus
Rhywogaethau

Galanthus allenii
Galanthus byzantinus
Galanthus caucasicus (eirlys y Cawcasws)
Galanthus fosteri
Galanthus elwesii (eirlys Elwes)
Galanthus ikariae (eirlys Icaria)
Galanthus imperati
Galanthus lagodechianus
Galanthus latifolius
Galanthus nivalis (yr eirlys cyffredin)
Galanthus peshmenii
Galanthus platyphyllus
Galanthus plicatus (eirlys deilblyg)
Galanthus reginae-olgae (eirlys yr hydref)
Galanthus woronowii

Genws o blanhigion bychan gyda blodau gwynion yw eirlys (neu lili wen fach, cloch maban) yn nheulu'r Amaryllidaceae. Yr enw Lladin arno yw Galanthus gála "llaeth", ánthos "blodyn". Ceir tuag 20 o rywogaethau o fewn y genws.

Mae gan y planhigyn lluosflwydd hwn ddwy ddeilen hirfain ac un blodyn siâp cloch sy'n pendwmpian, neu'n gwyro tua'r llawr, ag iddo chwech o betalau. Ceir marciau bychan gwyrdd y tu fewn i'r petalau.

Yng ngwledydd Prydain, dyma un o'r planhigion cyntaf i flodeuo ac arferwyd dathlu Gŵyl Fair y Canhwyllau ar y dydd yr agorodd y petalau, neu ar 2 Chwefror.

Yn 1753 y rhoddwyd yr enw Galanthus i'r genws hwn, ond ceir llawer o enwau Cymraeg arno ers cannoedd o flynyddoedd cyn hynny, gan gynnwys: Blodyn yr Eira, Cloch Maban, Cloch y Baban, Cloch yr Eiriol, Eirdlws, Eiriawl, Eiriol, Lili Wen Fach, Mws yr Eira a Thlws yr Eira.

Ysgrif Twm Elias

golygu

Beth welaist ti ar lawnt y Plas...

Beth a welaist ar y lawnt,
Gyda’i wyneb gwyn, edifar?
Tlws yr eira, blodyn Mawrth,
Wedi codi yn rhy gynnar.

Dyna ddywedodd Eifion Wyn am yr eirlysiau, ac i Richard Morgan yn ei Lyfr Blodau (1909): “Efe yw blodyn gobaith, a blaenffrwyth blodau’r flwyddyn”. Gwyliwch amdanynt yn gynnar pob blwyddyn mewn gerddi, ac yma ac acw ar ochrau ffyrdd – yn enwedig os oes tai, plasdy, eglwys neu olion hen fynachlog wrth ymyl. A’r rheswm am hyn ydi mai wedi eu plannu neu ddianc o erddi mae’r rhan fwya ohonynt.

’Does dim sicrwydd llwyr bod eirlysiau yn frodorol i Brydain, a be sy’n ffwndro pobol sy’ ishio gwybod eu hanes ydi bod eirlysiau, mae’n debyg, wedi cael eu lledaenu drwy’r wlad gan fynachod yn y Canol Oesoedd i’w plannu ger y mynachlogydd er mwyn addurno capeli’r mynachlogydd adeg Gŵyl Fair y Canhwyllau, pob Chwefror 2il. Gwnaed hynny am fod gwyn y blodau yn cynrychioli purdeb y Forwyn Fair – sy’n elfen mor bwysig yng ngredo’r Eglwys Gatholig – ac felly oedd hi yma hefyd yn y Gymru Gatholig cyn i Hari’r 8fed ffraeo hefo’r Pâb a meddiannu’r mynachlogydd. Ac am mai wedi eu plannu y tu allan i’w cynefin naturiol y mae’r rhan fwya o eirlysiau, anamal iawn y byddant yn hadu yma. A hynny am eu bod yn blodeuo’n llawer rhy gynnar i’r pryfed a’r gwenyn fuasa’n eu peillio petaent yn tyfu yn Ffrainc neu Lydaw. Ond, er y cysylltiad hefo’r Forwyn Fair a Gŵyl y Canhwyllau mae d’wad ag eirlysiau i’r t^y yn dal i gael ei ystyried yn anlwcus – ac yn beryg o achosi marwolaeth yn y teulu. Ai y ffaith bod Eirlysiau yn tyfu mor gyffredin mewn mynwentydd sy’ tu ôl i’r goel yma? Ac i rai pobl mae hyd yn oed siâp y blodyn yn eu hatgoffa o farwolaeth – am ei fod fel amdo yn amgau corff bychan.

Syniad arall ydi y byddai dwad ag eirlysiau i’r tŷ yn yr 16g – 17g yn eich rhoi mewn peryg o gael eich cyhuddo o fod yn Gatholig – oherwydd y cysylltiad hefo’r Forwyn Fair, ar adeg pan oedd Catholigion yn cael eu herlid. Byddai dwad ag eirlysiau i’r ty yn amharu nid yn unig arnoch chi a’ch teulu ond, hefyd, fe fyddai llaeth y fuwch yn mynd yn ddyfrllyd a’r menyn yn wyn.

Mae’r cysylltiad hefo llaeth yn enw gwyddonol y blodyn – Galanthus nivalis – ‘Galanthus’ yn golygu ‘blodyn lliw’r llefrith’ a ‘nivalis’ yn golygu eira. Mae’r holl enwau lleol Cymraeg yn tystio i boblogrwydd eirlysiau dros y cenedlaethau hefyd. Yr eirlys a blodyn yr eira ydy’r ddau enw mwya cyffredin – drwy’r gogledd a’r de, a lili wen fach yn dyn wrth eu sodla – a lili fach yr eira yn amrywiad bach clws ar yr enw hwn o Forgannwg, a tlws yr eira o Sir Gaernarfon. Ym Maldwyn mae’n cael ei galw’n Prydferth Ôd, neu jyst Yr Ôd. Enwau eraill ydi cloch maban, cloch yr eiriol ag eirdlws. Mae cyfanswm o ryw 18 o enwau wedi eu cofnodi i gyd yn y gwahanol lyfrau[1][2][3]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwenllian Awbery, Blodau’r Maes a’r Ardd (1995)
  2. Dafydd Davies a Arthur Jones, Enwau Cymraeg ar Blanhigion (1995)
  3. Y bennod hon yn addasiad o sgript ddarlledwyd ar ‘GalwadCynnar’, Radio Cymru, 25 Chwefror 2006 gan Twm Elias, Gyda diolch i BBC Radio Cymru a geidw pob hawl