Clymlythyren

Cyfuno llythrennau ar gyfer teip neu ysgrifennu i greu un glyff.

Mewn ysgrifen neu mewn teip, pâr neu fwy o graffemau sy'n cyfuno i greu un glyff yw clymlythren. Gelwir yn "ligature" yn Saesneg. Gellir meddwl amdanno fel ffordd o dalfyrru dwy lythyren wahanol er mwyn arbed lle, symlrwydd neu aetheteg.

Esiamplau o glymlythrennau

Un enghraifft yw'r nod æ a ddefnyddir yn Saesneg, lle clymwyd y llythrennau a ac e. Hynny yw, mae'r un glyff, nôd, gall gynnwys sawl llythyren neu siâp arall yn clymu i greu un sain.

Enghraifft arall yw'r ampersand (&) a ddefnyddir yn y Saesneg. Daeth y clymlythren yma wrth gyfuno ysgrifennu'r llythrennau Lladin e a t (i sillafu et, y gair Lladin am y gair a, and yn Saesneg).

Datblygwyd clymlythrennau yn yr Oesoedd Canol wrth i ysgrifwyr geisio arbed lle wrth ysgrifennu gan fod ysgrifennu ar felwm (croen llo neu anifal arall) mor ddrud. Datblygwyd system dwys o dalfyrru llythrennau a sillafiadau. Yn ystod cyfnod cynnar yr argraffwasg datblygwyd teipwynebau ar gyfer cyfuniadau o lythrennau byddai'n ymddangos yn fynych. Gwnaed hyn i arbed amser a hefyd hefyd gynllun clymlythrennau mwy trawiadol er mwyn torri ar undonedd y print.

Datblygodd nifer o diacritigs ieithoedd Ewrop o'r arferion canol oesol hyn, er na meddylir am bob un bellach fel clymlythyren. Ymysg un o'r clymlythrennau oedd yr arfer Almaeneg o roi e uwchben y llefariaid a, o, u er mwyn arbed lle o orfod ysgriennu ae, oe, ue. Daeth yr e yn nes ymlaen yn umlaut a ddefnyddir bellach yn yr iaith.

Dangoswyd hanes didoriad o roi e uwchben a, o, uû Almaeneg yn y sgript Gothig Almaenig ac felly yn arbennig mewn arddull ohono a elwir yn Kurrent, ac yna, ymgorfforiad mwyaf diweddar (a'r olaf i'w ddysgu i blant ysgol a'i ddefnyddio mewn modd swyddogol, Sütterlin. Mae'r e Kurrent yn ymdebygu i ddwy linell fertigol gan felly ddangos o le ddaeth yr umlaut. Ceir hefyd clymlythrennau yn Sütterlin ar gyfer ..

Yr ß Almaeneg

golygu
 
"ß" ar ffurf clymlythyren "ſʒ" ar arwydd stryd yn Berlin (Petersburger Straße). Mae'r arwydd ar y dde (Bersarinplatz) yn gorffen gyda'r clymlythyrennau "tʒ".
Prif: ß

Mae'r Eszett Almaeneg (a elwir hefyd yn scharfes S, golyga s finiog) ß yn llythyren swyddogol yn y wyddor yn yr Almaen ac Awstria. Yn y Swistir, ni ddefnyddir yr Eszett o gwbl, defnyddir dim ond ss. Dywedir ei fod yn gyfuniad i'r hen ffurf ar ysgrifennu s yn y sgript Gothig gyda ei chyfuno gyda'r lythyren z.

Yrtyrir y Eszett yn glymlythyren gan ei fod yn cyfuno dwy nod sydd yr un peth ss.

Y Lythryen W

golygu

Ychwanegiad i'r wyddor Ladin yw 'w' gyda'i wreiddiau yn 7g. Ysgrifwyd ei sain (phoneme) mewn sawl ffordd wahanol. Yn yr Hen Saesneg, defnyddiwyd y lythyren wynn (Ƿ) ond diflannodd yr wynn o dan ddylanwad Normanaidd. Erbyn 14g, daeth y lythyren 'w' newydd i fodolaeth drwy gyfuno dwy v neu dwy u gan ddod yn lythyren swyddogol ynddo'i hun gyda lle yn y wyddor. Dyna pam y'i gelwir yn 'double u' yn Saesneg. Oherwydd mai pur diweddar y mabwysiadwyd y lythyren, o'i chymharu â llythrennau eraill yn y wyddor, dim ond llond llaw o ieithoedd Ewropeaidd (Saesneg, Iseldireg, Almaeneg, Pwyleg, Cymraeg, Malteg, a Walŵn) sy'n defnyddio'r lythyren mewn geiriau brodorol.

Yr ll Gymraeg a Sbaeneg

golygu

Dydy deunodau (digraphs) megis ll Cymraeg a Sbaeneg ddim yn clymlythyren gan fod y ddwy lythyren yn cael eu dangos fel glyff arwahân. Er y bydd y ddwy l yn uno gyda'i gilydd wrth ysgriennu neu mewn ffontiau italig, dydy ffurf sylfaenol y llythrennau heb ei newid ac mae'r glyff unigol yn sefyll arwahân.

Cafwyd rhai ymdrechion yn y gorffennol i greu clymlythyren ar gyfer y ll Gymraeg.

Clymlythrennau mewn Sgript Gothig

golygu

Cafwyd clymlythrennau yn yr sgript Almaeneg Kurrent (math ar sgript Gothig) a'i fersiwn olaf, Sütterlin. Crewyd clymythrennau neu glyffiaid ar gyfer y synau: ch, sch, tsch a sz.

Nid yw'r rhain yn cael eu harddel mwyach wedi i'r Natsiaid roi tefun ar ddysgu Sutterlin yn yr ysgolion ac i ddefnyddio sgript Fraktur wrth gyhoeddi.