Cneuen yr India

sbeis o'r Myristica fragrans

Mae cneuen yr India neu hefyd nytmeg[1] yn hedyn ffrwyth a ddefnyddir ar gyfer coginio, persawr ac iechyd a harddwch corfforol. Gall hefyd achosi alrgedd ymysg rhai pobl.[2] Er y defnyddir mewn meddyginiaethau traddodiadol ar gyfer gwahanol anhwylderau, ni wyddir am unrhyw gwerth meddygol i'r nytmeg.[2]

Cneuen yr India

Elfennau golygu

 
'Mace'

Ceuen yr India,, yw hadau mewnol y goeden Myristica fragrans[3] o rywogaeth y Myristica. Marchnatir yr aril neu'r bilen gwag coch sy'n amgylchynu'r hedyn fewnol fel rhywogaeth ar wahân, sef y macis, sydd ar ôl ei sychu, yn cael ei werthfawrogi'n fawr yn India a Sri Lanca. Er hynny, mae nytmeg yn cael ei adnabod yn well fel sbeis ar draws y byd.

Caiff cragen yr haden ei sychu'n raddol yn yr haul dros gyfnod o chwech i wyth wythnos. Yn ystod y cyfnod hyn bydd yr hedyn yn cyfangu o'i gragen galed nes for yr hedyn yn symud yn rhydd tu fewn y gragen. Torrir y gragen wedyn gyda gordd bren a tynnir y nytmeg o'r plisgyn. Mae cneuen yr India yn siap hirgrwn lliw frown gyda wyneb rhychiog..[4] Maent fel rheol yn wyffurf a tua 20.5–30 mm (0.81–1.18 in) o hyd a 15–18 mm (0.59–0.71 in) o led, gan bwyso 5–10 g (0.18–0.35 oz) pan yn sych.

Daw cnwd cynta'r goeden rhyw saith neu naw mlynedd wedi plannu a bydd y goeden yn cyrraedd ei chynnyrch llawn wedi ugain mlynedd.

Hanes golygu

 
Ynysoedd Banda

Mae'r traddodiad o goginio gyda'r nytmeg yn hynafol iawn yn Ne-ddwyrain Asia. Cred rhai i'r sbeis ddod i Ewrop drwy law'r Arabiaid, er ei bod hi'n debygol bod ei ddefnydd hyd yn oed yn hŷn, gan fod y nytmeg eisoes yn un o'r cynhwysion yn cael eu llosgi fel arogldarthu mewn seremonïau crefyddol yn y temlau Rhufeinig.

Hyd at ganol 19g, grŵp ynysoedd y Banda (a elwir drachefn yn "Spice Islands" am y rheswm yma) oedd unig leoliad cynhyrchu cneuen yr India a 'mace' yn y byd. Lleolir yr ynysoedd ar ochr ddwyreiniol Indonesia yn nhalaith Maluku. Maent yn cynnwys un ar ddeg ynys llosgfynyddig fechan a elwir yn Neira, Gunung Api, Banda Besar, Rhun, Ai, Hatta, Syahrir, Karaka, Manukan, Nailaka a Batu Kapal, gyda arwynebedd tir o 8,150 hectar.[5]

Roedd nytmeg yn nwydd gwerthfawr iawn a werthwyd i ddinas Fenis gan yr Arabiaid a wrthododd ddatgelu lleoliad cynhyrchwyr y gneun. Yr awch am nytmeg oedd un o'r rhesymau i'r Portiwgaliaid hwylio o gylch y byd. Wedi i Afonso de Albuquerque gipio dinas Malacca yn Awst 1551 yn enw brenin Portiwgal, daeth o hyd i leoliad Ynysoedd Banda drwy gefnogaeth (gorfordol) morwyr Malay gan lanio yno yn gynnar yn 1552. [10]

Yn 1621 ymosododd yr Iseldirwyr yn filain ar yr ynysoedd er mwyn ennill monopoli o'r cynnyrch. Yn dilyn sawl cyflafan cwympodd poblogaeth yr ynysoedd o oddeutu 15,000 i 'mond 1,000 - unai drwy ladd, llwgu, ffoi, allfudo neu gwerthu fel caethweision gan yr Iseldirwyr.[6] Llwyddodd Lloegr i ennill rheolaeth o un ynys, Rhun ond cymaint oedd pwysigrwydd yr ynysoedd i'r Iseldiroedd fel iddynt ffeirio ynys Manhattan yn Efrog Newydd i Loegr am Rhun yng Nghytundeb Breda yn 1667.

Yn ystod cwymp yn nerth milwrol yr Iseldirwyr yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, fe gymeroedd Prydain reolaeth o'r ynysoedd gan drawsblanu coed nytmeg a'r pridd i Sri Lanca, Penang, Bencoolen, a Singapôr.[7] (Er bod tystiolaeth fod coed nytmeg wedi bodoli yn Sir Lanca cyn hyn.)[8] Oddi yno trawsblanwyd y coed i tirigaethau eraill Ymerodraeth Prydain megis Zanzibar ac Ynys Grenada yn y Caribî. Mae baner Grenada, a fabwysiadwyd yn 1974, yn arddangos darlun syml o'r ffrwyth cneuen yr India wedi ei hagor. Ail-enillodd yr Iseldirwyr reolaeth o'r Ynysoedd Banda nes yr Ail Ryfel Byd.

Coginio golygu

Gellir ei ddefnyddio mewn cannranau bychain sych wedi crafu'n bowdr i ychwanegu blas i ddiodydd poeth fel eggnog', pwdinau (e.e. pwdin reis), cymysgfa ffrwythau, pasteiod a busgedi eraill wedi'u coginio. Fe'i defnyddir hefyd fel cynhwysyn mewn sawsiau hallt.[4] Mae i'r cneuen flas cynnes ac ychyig yn felys.

Mae hefyd yn un o gynhwysion rhai mathau o gyri yn yr yn India a rhai prydau o fwyd y Dwyrain Canol, yn enwedig yn Nhwrci, Syria a Libanus

Meddygyniaeth golygu

Mae cneuen yr India yn cynnwys olew hanfodol ac fe'i hystyrir hefyd yn gynnyrch meddyginiaethol ar gyfer meddygaeth Ayurvedic a llawer o feddyginiaethau cartref traddodiadol eraill. Fe'i defnyddir ar hyn o bryd yn y diwydiant fferyllol, yn enwedig fel blasu wrth gynhyrchu past dannedd ac fel cynhwysyn mewn syrupiau yn erbyn peswch

Oriel golygu

 
Ffrwyth cneuen yr India
Ffrwyth cneuen yr India 
 
'Aril' coch a'r hedyn o fewn y ffrwyth
'Aril' coch a'r hedyn o fewn y ffrwyth 
 
Aril yn gorchuddio'r hedyn
Aril yn gorchuddio'r hedyn 

Cyfeiriadau golygu

  1. https://geiriaduracademi.org/
  2. 2.0 2.1 "Nutmeg". Drugs.com. 2009. Cyrchwyd 2017-05-04.
  3. "Nutmeg and derivatives (Review)". Food and Agriculture Organization (FAO) of the United Nations. September 1994. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-30. Cyrchwyd 29 October 2018.
  4. 4.0 4.1 "Nutmeg spice". Encyclopædia Britannica Online.
  5. Centre, UNESCO World Heritage. "The Historic and Marine Landscape of the Banda Islands – UNESCO World Heritage Centre". whc.unesco.org (yn Saesneg). Cyrchwyd 2016-03-04.
  6. Hanna, Willard (1991). Indonesian Banda: Colonialism and Its Aftermath in the Nutmeg Islands. Moluccas, East Indonesia: Yayasan Warisan dan Budaya Banda Neira.
  7. Giles Milton, Nathaniel's Nutmeg (London, 1999) ISBN 0-340-69675-3
  8. "'Nutmeg', Department of Export Agriculture website". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-04-18. Cyrchwyd 2019-01-15.

Dolenni allanol golygu