Baner Grenada
Mabwysiadwyd baner genedlaethol Grenada wrth iddi ddod yn wlad annibynnol oddi ar Brydain ar 7 Chwefror 1974. Mae'n genedl yn y Caribî. Dyluniwyd y faner gan Anthony C. George o Soubise ym mhlwyf Saint Andrew ar Grenada. Mae'r faner ddinesyg yr un peth, heblaw fod y cymuseredd ar raddfa 1:2 yn hytrach na 3:5. Mae faner forwrol wedi ei seilio ar yr White Ensign Brydeinig gyda'r faner genedlaethol yn y canton gan ymestyn fewn i'r groes.
Enghraifft o'r canlynol | baner endid gweinyddol o fewn un wlad |
---|---|
Crëwr | Anthony C. George |
Lliw/iau | coch, aur, gwyrdd |
Dechrau/Sefydlu | 7 Chwefror 1974 |
Genre | Pan-African flag |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Symboliaeth
golyguMae'r chwe seren yn y ffrâm yn cynrychioli chwech plwyf ynys Grenada [1] gyda'r seren ganol wedi ei hamgylchynu gan ddisg goch yn cynrychioli Carriacou a Petite Martinique (dwy ynys ychydig i'r gogledd sy'n a weinyddir gan Grenada).
Y symbol a ddangosir wrth y mast yw clowsyn cneuen yr India, uun o brif gynnyrchion Grenada. Mae hefyd yn cynrychioli dolen i gyn-enw'r ynys "Isle of Spice".[2]
Mae'r lliw coch yn y faner yn sefyll am ddewrder ac egni; aur am ddoethuneb a chynhesrwydd; a gwyr am y llysdyfiant ac amaethyddiaeth.
-
Baner Grenada (1875–1903)
-
Baner Grenada (1903–1967)
-
Baner Grenada (1967–1974)
-
Baner Llywodraethwr Grenada (1967–1974)
-
Baner Llywodraethwr Cyffredinol Grenada (1974–presennol)
Dolenni
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ https://www.crwflags.com/fotw/flags/gd.html
- ↑ "FLAG OF GRENADA, CARRIACOU AND PETITE MARTINIQUE". Government of Grenada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-19. Cyrchwyd 2010-08-29.