Cnicht

mynydd (689m) yng Ngwynedd

Mae Cnicht yn fynydd yn y Moelwynion yn Eryri. Gellir ei ddringo'n weddol hawdd o bentref Croesor. Ambell dro caiff yr enw "Matterhorn Cymru", gan ei fod o'r de-orllewin (ardal Porthmadog neu Groesor) yn edrych yn bur debyg i'r mynydd hwnnw. O'r cyfeiriad arall (wrth ddilyn y llwybr hir sy'n cychwyn gerllaw Nantmor, er enghraifft), prin y mae'n edrych fel mynydd o gwbl, dim ond lle mae'r grib uchel yn gorffen.

Y Cnicht
Mathmynydd, copa Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr689 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau52.99969°N 4.01987°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH6454946618 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd104 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaAllt Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddY Moelwynion Edit this on Wikidata
Map

Tarddiad yr enw golygu

Mae'n debyg fod enw'r mynydd yn tarddu o'r cyfenw Saesneg Knight – bu teulu o'r enw hwnnw yn fasnachwyr yng Nghaernarfon ac yn berchen ar dir yn yr ardal. Pan fenthyciwyd yr enw i'r Gymraeg, roedd y cytseiniad a gynrychiolir gan <K> a <gh> yn dal yn cael eu hynganu yn Saesneg ac fe'u cadwyd yn yr enw Cymraeg Cnicht fel <C> (/k/) a <ch> (/χ/).[1]

Yn lleol, dywedir weithiau fod y mynydd yn edrych yn debyg i farchog ('knight' yn Saesneg) neu i helmed marchog.[2]

Rhestru copaon golygu

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Hewitt, Nuttall a HuMP. Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghŷd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[3] Uchder y copa o lefel y môr ydy 689 metr (2260 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 20 Tachwedd 2009.

Gweler hefyd golygu

Dolennau allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Owen, Hywel Wyn a Richard Morgan, Dictionary of the Place-Names of Wales (Llandysul: Gomer, 2007), t. 91.
  2. Prysor, Dewi, 100 Cymru [:] Y Mynyddoedd a Fi (Talybont: Y Lolfa, 2021), t. 179.
  3. “Database of British and Irish hills”