Croesor

pentref yng Ngwynedd

Pentref bychan yng nghymuned Llanfrothen, Gwynedd, Cymru, yw Croesor[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Saif yng Nghwm Croesor wrth droed Cnicht a'r Moelwyn Mawr yng Ngwynedd. Mae'r boblogaeth tua 105. Roedd yno un ysgol gynradd a chapel. Caewyd y naill yn 2010 a'r llall yn 2016, a chaeodd yr is-swyddfa bost yn 1980. Gellir cyrraedd yno ar hyd dwy ffordd fechan; yr un mwyaf hwylus o'r Garreg a'r llall, dros y mynydd o Tan-y-bwlch. Yn y 18g roedd ffordd dyrpeg yn cysylltu Tan y Bwlch â Nantmor yn mynd trwy'r pentref.

Croesor
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9812°N 4.0405°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH631446 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/auLiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[3] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[4]

Datblygodd y pentref gyda thŵf y chwareli llechi yn y 19g. Mae sawl chwarel yn y cylch, yn enwedig Chwarel Croesor a Chwarel Rhosydd. Agorwyd Chwarel Croesor yn 1856 a daeth yn eithaf llewyrchus dan reolaeth Moses Kellow ar droead yr 20g. Adeiladwyd trac tram i ddod a'r llechi i lawr o'r chwarel a datblygwyd y pentref ymhellach gan Hugh Beaver Roberts, perchennog stâd Croesor.

Efallai fod y pentref yn fwyaf enwog fel cartref Bob Owen, Croesor y casglwr llyfrau ac ysgolhaig.

Agorwyd Ysgol Gynradd Croesor ym 1873, a caewyd yn 2008 oherwydd diffyg disgyblion.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 19 Ionawr 2022
  3. Gwefan Senedd Cymru
  4. Gwefan Senedd y DU
  5.  Cau Ysgol. Yr Wylan (Tachwedd 2008). Adalwyd ar 28 Mehefin 2012.