Cnwp-fwsogl corn carw

Lycopodium clavatum
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Urdd: Lycopodiales
Teulu: Lycopodiaceae
Genws: Lycopodium
Rhywogaeth: L. chinense
Enw deuenwol
Lycopodium clavatum
Philip Miller
Cyfystyron
  • Lycium barbarum var. chinense (Mill.) Aiton

Planhigyn fasgwlaidd a math o fwsog cyntefig yw Cnwp-fwsogl corn carw sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Lycopodiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Lycopodium clavatum a'r enw Saesneg yw Stag`s-horn clubmoss.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Cnwpfwsogl Corn Carw, Cnwbfwsogl Corn Carw, Cnwpfwsogl Corn Hydd, Corn Carw'r Mynydd, Palf y Blaidd.

Tir asidig, tywodlyd yw eu cynefin, fel arfer, yn enwedig tir uchel, gwlyb.

Perthynas â dyn golygu

Bu cysylltiad annisgwyl rhwng cnwpfwsoglau a showbiz. Defnyddiwyd powdwr wedi ei wneud o sborau'r cnwpfwsogl cyffredin, a adwaenid yn syml fel lycopodium, mewn cyflwyniadau theatrig Fictorianaidd er mwyn creu effeithiau fflammau. Llosgwyd cwmwl o sborau wedi ei chwythu yn gyflym ac yn ddisglair, ond heb fawr o wres. Fe'i hystyrwyd yn ddiogel yn ôl safonau'r cyfnod. Sut yn y byd cafodd neb y syniad gwreiddiol o ddefnyddio'r fath ddull at y diben hwn?[2][1]

Llên gwerin golygu

Arwydd o ffrwythlondeb

"Un o'i hoff bynciau [fy ewythr Glyn Davies, Cwm Dulas, Llanddewi Brefi] oedd dangos i'r genhedlaeth iau na wyddent am rai o'r planhigion oedd yn adnabyddus i bobl y mynydd. Y drindod a gelai eu henwi bob tro oedd: y penllwydyn (neu Plu'r Gweunydd, Eriophorum; y sidan bengoch (Polytrichum commune — .... fe'i gweid yn dorch gref pan fod angen gan y bugeiliaid [i wneud carchar defaid ohono]); a'r corn carw. Mi fûm am flynyddoedd yn methu cael crap ar y diwetha "planhigyn gwydyn a hwnnw'n dirwn", fel dywedai fy ewythr, and rwyf wedi cael ar ddeall erbyn hyn mai Stag's horn clubmoss (Lycopodium clavatum) ydoedd. Yr hyn oedd yn ddiddorol oedd fod y bois ifainc 'slawer dydd yn gwisgo darnau ohono. Oes unrhyw un wedi clywed am yr arfer mewn ardaloedd eraill, ac a all unrhyw un gynnig esboniad? Tybed ai hen hen arwydd o ffrwythlondeb ydyw llysieuyn sy'n las trwy'r Gaeaf fel y celyn a'r uchelwydd?"[3]

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Wikipedia
  3. Gwyn Jones, yn Fferm a Thyddyn 8, Calan Gaeaf 1991, tud. 15
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: